Rheoli Gwastraff
Cyhoeddwyd 4th Jan, 2024Cymeradwywyd y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle gan y Senedd ar 28 Tachwedd a byddant yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024. Mae hyn yn gam nesaf sylweddol ar daith Cymru fel cenedl ailgylchu sy’n arwain y byd, ac mae’n gam hanfodol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, a gwneud cynnydd tuag at economi gryfach, wyrddach yn unol a’r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu.
Bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae cartrefi eisoes yn ei wneud ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Bydd hyn yn lleihau faint o wastraff a anfonwn at losgi a thirlenwi ac yn cynyddu ansawdd a maint y deunyddiau y gellir eu hailgylchu a gasglwn o weithleoedd. Bydd hyn yn ei dro yn dal deunyddiau pwysig i’w rhoi yn ôl i economi Cymru yn ogystal â sicrhau mwy o gysondeb o ran sut rydym yn casglu ac yn rheoli ailgylchu.
Rwyf hefyd wedi gosod a chyhoeddi’r ddogfen Casglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân i’w Hailgylchu: Cod Ymarfer Cymru (‘y Cod’), sy’n nodi canllawiau ymarferol ar sut i gydymffurfio â’r gyfraith newydd
Os hoffech ddarllen y Datganiad Gweinidogol, sy’n cynnwys dolen i’r Cod Ymarfer, gallwch wneud hynny yma: Datganiad Ysgrifenedig: Gwneud y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle a chyhoeddi’r Cod Ymarfer (4 Rhagfyr 2023) | LLYW.CYMRU
Mae gwefan yr ymgyrch yma:
Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRUAilgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU
Rhaid i Drefnydd y Digwyddiad sicrhau bod digon o finiau a sgipiau ar gael ar gyfer y digwyddiad.
Rhaid gorchuddio pob cynhwysydd gwastraff, gan gynnwys unrhyw sgipiau os cânt eu gadael heb eu goruchwylio, i atal bywyd gwyllt fel adar a gwiwerod rhag ymosod.
Ni ddylid gadael bagiau sbwriel allan mewn parc i’w casglu y diwrnod wedyn gan y byddant yn cael eu rhwygo ar agor gan fywyd gwyllt dros nos a chaiff y cynnwys ei wasgaru. Byddai Trefnydd y Digwyddiad yn gorfod talu am unrhyw ail-lanhau angenrheidiol mewn sefyllfa o’r fath.
Sicrhewch fod unrhyw arwyddion digwyddiadau dros dro a baneri yn cael eu tynnu i lawr cyn i chi adael safle.
Ewch i Wefan y Gwasanaeth Gwastraff Masnachol i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau y gall y Cyngor eu cynnig ar gyfer eich digwyddiad.
Arlwyo
Rhaid i bob uned arlwyo symudol ddarparu biniau sbwriel wrth ymyl eu hunedau y mae’n rhaid eu gwagio’n rheolaidd yn ystod digwyddiad.Gweler Arlwyo
Sbwriel
Gweler Sbwriel
Dŵr Gwastraff
Gweler Dŵr Gwastraff