Asesiad Risg Tân
Cyhoeddwyd 1st May, 2020Rhaid cyflwyno Asesiad Risg Tân addas a digonol i’r Panel Cyswllt Digwyddiadau nid llai na 4 wythnos cyn y diwrnod cyntaf y bydd y digwyddiad ar agor ar gyfer busnes.
Rhaid i’r Asesiad Risg Tân gael ei gynnal gan berson cymwys sydd â phrofiad a chymwysterau diogelwch tân addas.
Mae’r eitemau o ddiddordeb arbennig yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):
- Cynllun argyfwng
- Cynllun gadael safle
- Cyfrifiadau capasiti diogel ar gyfer arena’r digwyddiad fel endid
- Cyfrifiadau capasiti diogel ar gyfer rhannau penodol o arena’r digwyddiad (e.e. pebyll mawr neu ardaloedd caeedig eraill)
- Rhaid cydymffurfio â’r mesurau i sicrhau capasiti diogel
- Unrhyw weithgareddau neu nodweddion risg tân uchel (e.e. pyrodechnegau, cyfleusterau arlwyo masnachol)
- Mynediad i gerbydau argyfwng
- Hyfforddi Staff
Gweler Tân gwyllt
Gweler Asesiad Risg
Gweler Effeithiau Cynhyrchu Arbennig a Gweithgarwch Peryglus