Gallwch ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth, hen ffotograffau, darluniau a mapiau o Barc Bute trwy gyrchu ein tudalennau ar wefan HistoryPoints.org neu, os ydych yn y parc, trwy ddefnyddio darllenydd codau QR ar eich teclyn symudol.
Mae placiau bach wedi’u gosod ar hyd a lled y parc gyda dolenni codau QR i gynnwys ar y we.
Gellir lawrlwytho darllenyddion QR am ddim o’ch ‘app store’. I ddefnyddio’r codau, rydych yn dangos/sganio’r cod â chamera eich teclyn a bydd yn mynd â chi ar unwaith i’r we-dudalen berthnasol.
Os bydd yn well gennych, gallwch wrando ar recordiad sain o bob tudalen, ac mae cyfieithiadau hefyd ar gael mewn ieithoedd eraill.
Mae’r llwybr yn aros yn y mannau canlynol:
- Wal yr Anifeiliaid (sticer ar y bwrdd dehongli)
- Porth y Gorllewin (plac ar y ramp)
- Afon Taf (plac ar y safle bysus dŵr)
- Hen Ffordd Ddynesu’r Gorllewin (plac ar bostyn pren yng ngwaelod y border blodau)
- Safle Brodordy y Brodyr Duon (sticer ar y bwrdd dehongli)
- Caffi’r Tŷ Haf (sticer ar gornel y caffi)
- Planhigfa’r Castell a’r Hen Ardd Furiog (plac ar bostyn pren ger Gardd Stuttgart)
- Drws y Bobl (plac ar wal yng nghwrt y caffi)
- Pont y Pysgotwr (plac ar y bont)
- Pont yr Arglwyddes Bute (plac ar y bont)
- Cafn y Felin (sticer ar y postyn ffens)
- Rhodfa Ginco a Stablau’r Castell (sticer ar y bin)
- Porth Gogleddol Castell Caerdydd (plac ar y postyn gât metel)
- Porth Deheuol Castell Caerdydd (plac ar y balwstrad pren)
- Safle traphont a loc y gamlas, Heol y Gogledd, Caerdydd
- Hen bont y gamlas, Heol y Gogledd, Caerdydd
Mae fersiwn o’r Llwybr Codau QR ar gael i blant hefyd y gellir ei lawrlwytho. Yna gallwch ddilyn fersiwn fer o’r llwybr a chasglu llythrennau cudd i ddatgelu gair cudd.
Manylion
Ewch i'r wefanCyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau Parc ButeAtyniadau
- Ar y Bws Dŵr
- Ystafelloedd Te Pettigrew
- Caffi’r Ardd Gudd
- Y Ganolfan Ymwelwyr
- Castell Caerdydd
- Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
- Llwybrau Stori
- Taith Gweithgareddau Natur
- Taith Antur Bywyd Gwyllt
- Pedal Power
- Dôl yr Ystlumod
- Cerfluniau
- Llwybrau Darganfod y Tymhorau
- Llwybr Hanes – History Points (codau QR)