Mae dros ugain cerflun i’w darganfod ar hyd a lled y parc. Fe’u crëwyd gan sawl artist, yn aml gan ddefnyddio coed marw o’r parc a choed a oedd wedi cwympo ym Mharciau eraill Caerdydd.
Cerflun
Lleoliad
Artist
Cysyniad
Gwahadden
Caffi’r Tŷ Haf
Chris Wood
2022
Broga
Coed yr hen ŵr, ger y llwybr beicio
Chris Wood
Malwen
Coed yr hen ŵr, ger y llwybr beicio
Chris Wood
Seddi’r Wrachen Ludw
Coed yr hen ŵr, ger llwybr beicio
Chris Wood
Cerflun pen-blwydd
Y tu ôl i’r Blanhigfa, i’r de o gaeau chwarae’r Gored Ddu
Chris Wood
2018, i ddathlu 70 mlynedd ers agor Parc Bute i’r cyhoedd. Mae yna 2 law yn dal pyst sy’n cynnwys 19 deilen wahanol (mae’r Gingko yn ymddangos ddwywaith).
Cerflun
Lleoliad
Artist
Cysyniad
Sedd Fesen
Pen uchaf caeau chwarae’r Gored Ddu o dan goeden dderw fawr
David Lloyd
Cyfeiriad at y goeden dderw yn y lleoliad hwn
Sedd ‘gusanu’ Gastanwydden
Coedlan ar gaeau chwarae uchaf y Gored Ddu
David Lloyd
Cyfeiriad at y coed castan yn y lleoliad hwn a darpariaeth i ddefnyddwyr eistedd a gwylio chwaraeon a bywyd yr adar yn yr ardal hon o’r parc.
Sedd Gollen Ffrengig
Coetir ger y cwrs cydbwyso
David Lloyd
Cyfeiriad at y gollen Ffrengig ddu yn yr ardal hon gan ddarparu sedd i bobl, e.e. tra bod plant yn defnyddio’r cwrs cydbwyso.
Sedd y Cwrwgl
Glan yr afon ar y border blodau
Mark Folds
Cofnod hanesyddol o bobl yn pysgota gan ddefnyddio cwryglau ar afon Taf e.e. teulu’r Lucas.
Mainc Feddfaen y Brodyr Duon
Ger safle’r Brodyr Duon
Mark Folds
Mae’r Fainc yn cyfeirio at eitemau allweddol a ddarganfuwyd yn ystod cloddio archeolegol ar safle’r Brodyr Duon yn y 19eg ganrif. Hefyd yn rhoi enwau’r Brodyr Duon olaf y gwyddom iddynt feddiannu’r safle a dyddiadau meddiannaeth y brodordy
Sedd ffrâm llun
Pen deheuol Lawnt yr Orsedd ger seiliau’r hen oriel
Mark Folds
Mae’r ffrâm luniau wedi ei dylunio mewn arddull addurnedig yn cyfeirio at brosiect oriel gelf y trydydd Ardalydd Bute, prosiect y cefnwyd arno, ond y mae ei sylfeini i’w gweld o’r lleoliad hwn. Mae’r darn hefyd yn fframio golygfa tirwedd eiconig o fewn y parc ac mae tynnu lluniau pobl yn y ffrâm wedi dod yn atyniad ynddo’i hun
Pont Ddail
I’r de o’r llwybr sy’n arwain at y safle tacsi dŵr
Tom Harvey
Gellir cerdded dros neu gropian o dan y darn hwn. Mae grisiau’r bont yn dangos delweddau ac enwau rhai dail cyffredin sydd i’w cael yn y parc. Mae’r darn yn cyfeirio at yr hen bont a arferai groesi Afon Taf yn yr ardal hon. Gellir gweld seiliau’r hen bont wrth sefyll wrth y safle tacsi dŵr yn edrych i’r de
Dyfrgi ac eog
I’r gogledd o’r llwybr sy’n arwain at y safle tacsi dŵr
Tom Harvey
Gellir dringo arno a chropian drwy’r darn hwn. Mae’n cyfeirio at y rhediad eogiaid sy’n digwydd i fyny Afon Taf bob blwyddyn a phresenoldeb dyfrgwn ar hyd yr afon ym Mharc Bute
Broga a phryfyn
Ger llwybr Coed yr hen ŵr i’r de o’r Tŷ Haf
Tom Harvey
Gellir dringo ar i’r darn hwn a darperir sedd syml gerllaw e.e. i rieni gael eistedd tra bod eu plant yn ‘marchogaeth’ y broga. Gweithiodd yr artist gydag ysgol gynradd leol a chynhaliodd weithdy lle bu plant yn gwneud modelau clai. Daeth y syniad ar gyfer y broga allan o’u sesiwn ar ba anifeiliaid allai fod yn byw yn y parc
Chwilen gorniog
Coetir y tu ôl i Gaffi’r Tŷ Haf
Tom Harvey
Gellir dringo ar i’r darn hwn. Cyfeiriad at fwystfilod bach y coetir. Trwydded artistig wedi ei defnyddio ar y rhywogaeth o chwilod oherwydd ei rhinweddau esthetig
Ceubren perllan
Lawnt y Berllan ger y meinciau picnic
Tom Harvey
Gellir dringo ar i’r darn hwn a chropian drwyddo. Cyfeiriad at gofnod hanesyddol am blannu perllan yn yr ardal hon, ceubren wag wedi’i droi i sefyll ar ei draed yn cynnwys cerfwedd o goed perllan a ffrwythau