Drws y Bobl

Mae’r drws derw sy’n arwain at iard Canolfan Addysg y parc a Chaffi’r Ardd Gudd yn gampwaith celf. Neu, i fod yn fanwl, nifer o ddarnau o gelf. Ar ddechrau 2011, gwahoddwyd cerfwyr pren amatur a phroffesiynol i gyflwyno eu dyluniadau i baneli’r drws, a fyddai’n adlewyrchu treftadaeth gyfoethog y parc.

Dyluniwyd prif strwythur y drws, gan gynnwys y bachau haearn trymion, gan y pensaer o Gaerdydd, Michael Davies. Neilltuwyd naw panel sgwâr i enillwyr y gystadleuaeth gerfio. Ym mis Chwefror 2011, casglodd pawb ar y rhestr fer ddarn o dderw 23cm x 28cm a rhoddwyd mis iddynt gwblhau eu darn.

Yna dangoswyd y darnau mewn arddangosfa dros dro wrth i aelodau’r cyhoedd bleidleisio dros eu ffefrynnau. Yna cafodd y darnau buddugol eu hymgorffori i’r drws gan of a saer lleol. Gadewir i’r drws dreulio’n naturiol, ac mae bellach marciau adwaith cemegol rhwng tanin y derw a haearn y bachau. Mae’n cyflwyno nifer o dirnodau a straeon coll.

Fe’i gosodwyd yn ofalus ym mis Awst 2011, gan fod yn rhan bwysig o seremoni agor y ganolfan hamdden ym mis Hydref 2011.

Yr hyn mae’r paneli’n ei ddangos:

Y rhes uchaf, o’r chwith i’r dde:


Meudwy, gan Will Power (aelod hirsefydlog o dîm cynnal a chadw tiroedd parc y ddinas). Roedd meudwyfa ym mhen dwyreiniol hen Bont Caerdydd ar ddiwedd y 15fed ganrif. Roedd ei meudwy preswyl yn byw ar roddion pobl leol.


Pont y Swistir, gan Arthur Welsby. Adeiladwyd pont bren wedi’i gorchuddio, a ysbrydolwyd gan y bont yn Lucerne, y Swistir, yng Nghastell Caerdydd rhwng 1875 a 1878. Wedi’i dylunio gan William Burges, roedd yn creu llwybr dymunol i deulu Bute o’u hannedd i’w gerddi.


Andrew Pettigrew, gan Sharon Littley. Prif arddwr y castell rhwng 1873 a 1901 oedd Pettigrew. Cafodd y parc a welwn heddiw ei lunio trwy’i waith tirlunio ef a rhoddwyd iddo’r dasg o dyfu gwinwydd ar wal ddeheuol y castell.


Y rhes ganol:


Cafn y Felin, gan Barry Onslow. Safai dwy felin ŷd i’r gorllewin o’r castell yn y 12fed ganrif. Ychwanegwyd pandy erbyn 1314. Cymerodd cafn y felin ddŵr o Afon Taf i bweru’r melinau. Yn ddiweddarach, roedd yn sail i gamlas gyflenwi’r dociau, y sianel ar hyd dwyrain y parc.


Diwydiannau cartref, gan Edmundo Ferreira-Rocha (Ceidwad Trefol y Parc). Roedd y diwydiannau yn ardal y parc yn yr 18fed ganrif yn cynnwys gwaith haearn, gwaith copr a thanerdy (trin crwyn anifeiliaid i wneud lledr). Yn y 19eg ganrif, gwnaed rhaffau mewn cae hir a chul o’r enw’r rhafflan.


Brawd Du, gan Michael Davies (pensaer a gyflogir gan Brosiect Adfer Parc Bute i adfer Wal yr Anifeiliaid a Phorth y Gorllewin ac i adeiladu’r Ganolfan Addysg newydd). Sefydlwyd Brodordy’r Brodyr Duon ym 1256 gan Richard de Clare, mab Brenin Henry I. Roedd mynachod Dominicaidd yn cael eu hadnabod fel “brodyr duon” oherwydd eu cyflau tywyll, fel y dangosir yma mewn metel.


Y rhes isaf:


Stôl drochi, gan Betsan Dunn Codwyd stôl drochi i’r gogledd o Bont Caerdydd ym 1739. Roedd yn cynnwys braich bren hir gyda chadair ynghlwm. Byddai menywod “annymunol” yn cael eu strapio i’r gadair a’u trochi yn yr afon sawl gwaith. Roedd y dynion yn aros yn sych, ni waeth pa mor annymunol oedden nhw!

Cyryglau, gan Robert Innes Cychod pysgota bach wedi’u gwneud o groen wedi’i estyn dros fframiau helyg plygedig yw cyryglau. Defnyddiai un teulu a oedd yn byw yn ffermdy y Gored Ddu yn y 1830au gyryglau i bysgota yn Afon Taf. A allwch chi ddod o hyd i’r sedd wedi’i cherflunio ar lan yr afon heddiw a ysbrydolwyd gan gyryglau?

Darnau arian Rhufeinig, gan Barry Onslow. Mae darnau arian Rhufeinig wedi’u canfod ym Mharc Bute. Daethpwyd o hyd i ddau i’r gogledd o’r castell ym 1985 a chanfuwyd eu bod yn dyddio o tua 87AD.