Crëwyd dôl y blodau gwyllt yn 2017 i gynnig cynefin amrywiol a deniadol i bryfed a pheillwyr ac i fod yn ffynhonnell fwyd i annog cynnydd ym mhoblogaeth yr ystlumod. Mae hefyd yn cynnal mamaliaid ac amffibiaid bach gyda chuddfannau, bwyd a deunydd nythu.
Wedi’i hariannu gan gynllun ‘Bagiau Cymorth’ Tesco ac yn cynnig amrywiaeth eang o flodau gwyllt a gweiriau Prydeinig brodorol megis bysedd y cŵn, y pabi Cymreig a byddon chwerw, mae dôl y blodau gwyllt yn adnodd arbennig ac yn darparu toreth o baill, neithdar a bwyd ar ffurf larfau ar gyfer amrywiaeth o bryfed.
Mae 18 rhywogaeth o ystlumod yn y DU. Ceir o leiaf 9 ym Mharc Bute ac ar lan Afon Taf.
Sef:
- Yr ystlum lleiaf.
- Yr ystlum lleiaf soprano
- Ystlum lleiaf Nathwsiws
- Ystlumod blewog
- Ystlumod Brandt
- Ystlumod y dŵr
- Y serotin
- Ystlumod
- Ystlumod hirglust brown.
Creaduriaid y nos yw ystlumod felly yr amser gorau i’w gweld nhw yw adeg y cyfnos. Cadwch lygad am ddigwyddiadau a theithiau cerdded arbennig ynglŷn ag ystlumod a gynhelir ym Mharc Bute trwy gydol y flwyddyn.
Manylion
Cyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau Parc ButeAtyniadau
- Ar y Bws Dŵr
- Ystafelloedd Te Pettigrew
- Caffi’r Ardd Gudd
- Y Ganolfan Ymwelwyr
- Castell Caerdydd
- Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
- Llwybrau Stori
- Taith Gweithgareddau Natur
- Taith Antur Bywyd Gwyllt
- Pedal Power
- Dôl yr Ystlumod
- Cerfluniau
- Llwybrau Darganfod y Tymhorau
- Llwybr Hanes – History Points (codau QR)