Man o ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur
Mae’r coetir prydferth hwn wedi’i ddyrannu fel Safle o Ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur (SoDdCN) oherwydd ei bwysigrwydd i fywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Mae’n cynnwys planhigion megis Blodau’r Gwynt, Deintlys Cennog, Cloc y Dref a Craf y Geifr (garlleg gwyllt), sy’n nodweddiadol o hen goetir cynhenid.
Os edrychwch chi yn y coed fe welwch chi flychau ystlumod sydd wedi’u gosod trwy’r coetir a’r parc ehangach. Grŵp Ystlumod Caerdydd sydd wedi darparu’r rhain. Mae ystod deg o rywogaethau ystlumod wedi eu cofnodi ym Mharc Bute, megis ystlum Nathusius, yr Ystlum Lleiaf, a’r Ystlum Hirglust. Hefyd gellir gweld ystlumod y dŵr yn bwydo dros Afon Taf gyda’r nos.
Mae’r coetir yn rhan o ddarn ehangach o dir bywyd gwyllt, o’r Bannau Brycheiniog i Fae Caerdydd. Mae’n gartref i amrywiaeth eang o adar fel y Gnocell Fraith Fwyaf a’r Gnocell Werdd, y Dryw Melyn Cribog, y Telor Penddu, y Titw Cynffon Hir a’r Fronfraith. Mae rhai eraill hefyd wedi eu gweld ar hyd y darn yma o’r afon dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae amrywiaeth eang o loÿnnod byw a gwyfynod yn y coedwigoedd hyn. Efallai y gwelwch chi Gweirlöyn Brych a phili pala pen oren, gwalchgwyfyn y poplys a Melyn y Rhafnwydd ymhlith eraill.
Helpwch ni i gadw’r coetir hwn yn arbennig ar gyfer y bywyd gwyllt.
- Arhoswch ar y prif lwybr
- Peidiwch â thaflu sbwriel;
- Peidiwch â chynnau tân;
- Peidiwch â beicio.