Rheoli Parciau
Enillodd Parc Bute y statws Baner Werdd am y tro cyntaf yn 2008 ac mae wedi ei chynnal bob blwyddyn ers hynny.
Lleolir y tîm yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute ac mae’n darparu swyddogaethau a gwasanaethau i gefnogi’r canlynol:
- Rheoli a chynnal a chadw
- Projectau gwella
- Caffis y parc
- Y rhaglen digwyddiadau awyr agored
- Y rhaglenni ysgolion a gweithgareddau teulu
- Cynlluniau rhoi arian a chofebau’r parc
- Y rhaglen wirfoddoli
- Mentrau bioamrywiaeth a gweithgareddau cadwraeth
- Teithiau cerdded a sgyrsiau tywys
- Gwefan y parc a gwybodaeth i ymwelwyr
- Cyfathrebu â chwsmeriaid, y cyfryngau cymdeithasol a marchnata
- Rheoli a datblygu'r ardd goed
- Canolfan Ymwelwyr Parc Bute
- Cyfeillion Parc Bute
Cwrdd â Thîm Safle Parc Bute
Jenny Bradley
Rheolwr Dros Dro Parc Bute
Calum Daniels
Ceidwad Parc Bute
Bethan Owens Jones
Conorthwy-ydd Gweinyddol
Meriel Jones
Swyddog Addysg
Elinor Jones
Prentis Marchnata Corfforaethol
Mae Adran y Parciau yn rheoli swyddogaethau eraill fel y blanhigfa, coedyddiaeth, cynnal a chadw’r tiroedd, cynnal a chadw’r caeau chwaraeon a'r gwasanaeth ceidwaid parciau trefol ar sail dinas gyfan. Y Gwasanaethau Cymdogaeth sy’n rheoli sbwriel a chasglu gwastraff.
Gwobr y Faner Werdd a Chynllun Rheoli Parc Bute
Swyddogaeth bwysig arall sydd gan dîm y safle yw cynhyrchu Cynllun Rheoli Parc Bute, sy'n un o ofynion cynllun y Faner Werdd.
Enillodd Parc Bute y statws Baner Werdd am y tro cyntaf yn 2008 ac mae wedi ei chynnal bob blwyddyn ers hynny.
Dyfarniadau rheoli a dderbyniwyd gan Barc Bute
Mae Parc Bute yn falch o fod wedi cael ei gydnabod am ei safonau rheoli uchel ar draws nifer o feysydd.
Enw | Dyddiad derbyn | Nodiadau | Dolen at ragor o wybodaeth |
---|---|---|---|
Gwobr y Faner Werdd | 2008 – cyfredol | Trwy’r safle | Gwobr y Faner Werdd |
Lefel 4 y Ddraig Werdd | 2013 – cyfredol | Canolfan Ymwelwyr Parc Bute | Gwobr y Ddraig Werdd |
Achrediad Safle Treftadaeth Werdd | 2014 – cyfredol | Trwy’r safle | Achrediad Safle Treftadaeth Werdd |
Y Goriad Gwyrdd | 2019 – cyfredol | Canolfan Ymwelwyr Parc Bute | Y Goriad Gwyrdd |
Os hoffech gysylltu â'r tîm rheoli ar y safle, e-bostiwch parcbute@caerdydd.gov.uk