Dechrau gwaith cadwraeth i wella coetir Parc Bute fel rhan o gais am statws Coedwig Genedlaethol
Cyhoeddwyd 4th Chw, 2026Disgwylir i’r gwaith i wella iechyd coetir mewn Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SoBCN) ym Mharc Bute ddechrau yr wythnos nesaf.
Nod y gwaith, sy’n rhan o gynllun rheoli coetir hirdymor sydd wedi’i ddatblygu ar gyfer y coetir lled-naturiol hynafol yn y Gored Ddu, yw gwella bioamrywiaeth yn y coetir, gwella ei strwythur, rheoli clefyd coed ynn i sicrhau diogelwch y cyhoedd, a chynnal nodweddion y parc hanesyddol.

Coed y Gored Ddu. Llun gan: Cyngor Caerdydd
Mae cynlluniau tebyg hefyd yn cael eu datblygu ar gyfer coetiroedd yn Fferm y Fforest, Nant Fawr, Howardian, a Pharc y Mynydd Bychan. Bydd y cynlluniau yn gefn i gais i Lywodraeth Cymru am statws Coedwig Genedlaethol ar gyfer yr ardaloedd hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: “Nod ein cynllun rheoli newydd ar gyfer y coetir pwysig hwn yw gwella ei iechyd cyffredinol a bydd yn darparu buddion hirdymor go iawn i natur.
“Mae hwn yn waith rydyn ni wedi bod eisiau gallu ei wneud yng nghoedwig y Gored Ddu ers peth amser. Nawr, gyda chymorth incwm a gynhyrchwyd trwy ddigwyddiadau Blackweir Live yr haf diwethaf, fe allwn.”
“Gall prosesau rheoli coetiroedd fel clirio llystyfiant a phrysgoedio godi ofn ar bobl weithiau – ond maen nhw’n ddulliau dibynadwy sy’n cael eu defnyddio mewn coetiroedd ledled Caerdydd a gweddill y DU, i helpu i greu’r cynefinoedd amrywiol a ffyniannus rydyn ni i gyd eisiau eu gweld.”

Llwybr yn mynd trwy lystyfiant ar Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur y Gored Ddu. Llun gan: Cyngor Caerdydd
Bydd y gwaith gwella cychwynnol ym Mharc Bute eleni yn canolbwyntio ar ddwy ran o’r coetir – un ardal yn dilyn camlas gyflenwi’r dociau i’r de o’r orsaf ambiwlans, ac ail ardal ar ochr arall y parc, yn agos i Afon Taf.
Bydd y rhaglen waith eleni yn cael ei ariannu gan ddefnyddio incwm cyngherddau Blackweir Live yr haf diwethaf a bydd yn cael ei chwblhau cyn y tymor nythu adar.
Mae’r gwaith yn cynnwys:
- torri mieri yn ôl
- gwaith rheoli rhywogaethau ymledol – fel gwaredu Rhododendron.
- teneuo a chreu lle rhwng coed os bydd angen.
- prysgoedio os bydd angen – mae’r broses hon yn cynnwys torri coed yn ôl i lefel y ddaear i annog adfywio ac aildyfu dros amser. Nid yw’n lladd y coed.
Bydd y prosesau hyn yn helpu i wella lefelau golau ar lawr y goedwig, annog planhigion sy’n tyfu ar lawr y goedwig a’r haenen llwyni, gwella llif dŵr trwy gamlas gyflenwi’r dociau, a chynyddu bioamrywiaeth yn gyffredinol. Byddant yn cael eu dilyn gan waith tanblannu rhywogaethau brodorol. Tanblannu yw plannu coed llai o dan y canopi coed presennol.
Mae’n hysbys bod clefyd coed ynn yn yr ardal. Os gwelir coed marw neu goed sydd yn marw yn dilyn gwaith clirio’r llystyfiant, byddant yn cael eu tynnu oddi yno i helpu i gyfyngu lledaeniad y clefyd i goed eraill a sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Gweld rhagor o’r blog...
- Dechrau gwaith cadwraeth i wella coetir Parc Bute fel rhan o gais am statws Coedwig Genedlaethol
- Caeau’r Gored Ddu – Cwestiynau Cyffredin
- ‘Dyn Coed Afalau’ wedi’i blannu ar safle perllan cymunedol newydd ym Mharc Bute
- Parc Bute yn ‘Plannu ‘Nôl yn Well’ gyda rhagor o goed a pherllan gymunedol newydd
- Coroni Tîm Parc Bute y gorau yn y DU



