Cyfle Pecyn Priodas a Dathlu Gerddi Sophia
Cyhoeddwyd 19th Apr, 2021Mae Gerddi Sophia yn barc rhestredig Gradd II gan CADW sydd ddim ond taith gerdded fer o stadiwm Principality, Castell Caerdydd a phrif strydoedd y ddinas a chyrchfannau economi’r nos. Mae’n gyfagos i afon Taf, maes parcio talu ac arddangos a Llwybr Taf. Mae’r parc yn cynnwys gofod digwyddiadau dynodedig sydd wedi cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau awyr agored dros y blynyddoedd. Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da i’r safle (gan gynnwys gorsaf fysiau Gerddi Sophia) ac mae’n agos at nifer o westai, lleoliadau gwely a brecwast a thai llety. Gweinir y safle gan brif ffordd sy’n mynd ar hyd yr ochr orllewinol.
Hoffai Cyngor Caerdydd wahodd gweithredwyr sydd â diddordeb i gyflwyno cynnig am y cyfle i ddod yn bartner â’r Cyngor a defnyddio’r safle fel a ganlyn:
• Darparu pecynnau priodas/dathliad preifat/corfforaethol/lletygarwch yn ardal ddigwyddiadau Gerddi Sophia.
Bydd y cyfle hwn yn caniatáu i’r gweithredwr werthu amrywiaeth o becynnau dathlu pen uchaf y farchnad i gleientiaid preifat. O becynnau priodas, dathliadau pen-blwydd, pecynnau parti swyddfa a phopeth tebyg. Mae gan y parc gefndir deniadol â chefndir coediog ar ochr y dwyrain a’r de a gellid defnyddio Parc Bute.
Mae manylion llawn ar gael ar wefan Priodweddau Cyngor Caerdydd.
Dylid gwneud cais am unrhyw fath arall o ddigwyddiad a gynigir ar gyfer Gerddi Sophia yn y ffordd arferol drwy dudalennau digwyddiadau’r parciau.