Beiciau oddi ar y ffordd a beiciau cwad
Cyhoeddwyd 28th May, 2020Gwaherddir gyrru beiciau oddi ar y ffordd neu feiciau cwad ar dir y Cyngor. Gellir ond defnyddio’r beiciau hyn ar dir preifat â chaniatâd y tirfeddiannwr neu ar unrhyw drac cofrestredig.
Mater i’r heddlu yw’r defnydd o gerbydau modur ar dir y Cyngor. Mae’r Ddeddf Traffig Ffyrdd yn caniatáu i’r heddlu atafael cerbydau nas yswirir a’r rheiny sy’n cael eu gyrru heb drwydded. Hefyd, mae Adran 59 o’r Ddeddf Traffig Ffyrdd yn caniatáu i’r heddlu roi rhybudd i yrwyr os caiff ei hadrodd eu bod yn gyrru cerbyd mewn modd sy’n peri “gofid, trallod neu niwsans”.
Os gwelwch gerbydau o’r fath yn cael eu defnyddio ym Mharc Bute, cofnodwch yr amser, y dyddiad, yr union leoliad a nodi’r wybodaeth ac e-bostiwch yr adroddiad i publicservicecentre@wales.pnn.police.uk gan atodi unrhyw luniau. Gallwch hefyd gopïo parcbute@caerdydd.gov.uk er gwybodaeth i’r adran Rheoli Parciau.