Beicio (sgwteri a sglefrfyrddau)
Cyhoeddwyd 28th Mai, 2020Mae gan gerddwyr flaenoriaeth dros bob defnyddiwr arall ym Mharc Bute, hyd yn oed mewn mannau sydd wedi’u dynodi at ddibenion eraill a lle mae arwyddion yn nodi hyn. Byddwch yn ystyriol o gerddwyr wrth ddefnyddio ein llwybrau, yn benodol wrth basio pobl.
- Parth 5 mya yw Parc Bute ar gyfer pob dull o drafnidiaeth.
- Rhaid i feicwyr ddefnyddio’r llwybr beicio a rennir dynodedig lle mae ar gael a bod yn wyliadwrus o ran cerddwyr ar lwybrau beicio heb ddynodiad. Cadwch at y llwybrau, oherwydd y gall beicio ‘oddi ar y ffordd’ ddifrodi planhigion pwysig ar y llawr. Byddwch yn ymwybodol y cyfyngir yn benodol ar feicio mewn rhai mannau yn y parc.
- Cadwch i’r chwith gan oddiweddyd ar y dde.
- Byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchedd gan weithredu’n briodol. Oherwydd gwaith pob dydd megis casglu sbwriel, cynnal a chadw’r tiroedd a dosbarthu nwyddau, gallech chi ddod ar draws rhai cerbydau yn ystod eich amser yn y parc. Bydd lefelau’r traffig yn cynyddu yn ystod digwyddiadau a gwaith gwella, felly cymerwch fwy o ofal ar yr adegau hyn. Dylai cerbydau ildio i chi ond ystyriwch y posibilrwydd nad ydynt wedi’ch gweld chi. Am y rheswm hwn, rydym yn argymell peidio â defnyddio clustffonau wrth feicio trwy‘r parc.
- Bydd defnyddio cloch a/neu wisgo dillad llachar yn helpu rhoi rhybudd i bobl eraill o’ch presenoldeb.