Nodiadau'r Prif Arddwr Mis Gorffennaf 2026
Cyhoeddwyd 23rd Gor, 2026Gan Ben Barker, Prif Arddwr
Dyfrio sydd wedi bod y peth pwysicaf y mis hwn ym Mharc Bute a'r ddinas ehangach wrth i ni geisio ymdopi â'r cyfnod sych parhaus hwn. Er ein bod yn ymdrechu'n gyson i ddefnyddio stoc fwy cynaliadwy a goddefgar o sychder mewn unrhyw gynllun blannu newydd, mae'r diffyg glaw wedi dechrau effeithio ar lwyni a phlanhigion lluosflwydd sefydledig hyd yn oed.
Effaith weladwy arall o'r amodau yw ymddangosiad ein crocws hydrefol Colchicum autumnale dri mis llawn cyn bydden ni fel arfer yn disgwyl ei weld, yn ogystal â rhai o'r Acers yn dechrau dangos lliwiau'r hydref mewn rhai o’u dail.
Mewn mannau eraill mae'r diffyg glaw wedi golygu bod rhai planhigion sydd fel arfer yn dioddef mewn unrhyw lawiad trwm wedi bod yn sefyll yn dalsyth. Yn y border blodau, mae Mynawyd y Bugail 'Ann Folkard', y Perovskia 'Blue Spire' a’r Crocosmia 'Lucifer' wedi bod yn ffynnu, tra bod safle Brodordy’r Brodyr Duon yn llawn peillwyr ar Echinacea purpurea, Veronicastrum 'Album' a Monarda 'Fireball'.
Mae ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr wedi bod yn herio'r gwres i gadw'r borderi a'r gwelyau yn daclus, yn ogystal â gosod tomwellt o dan goed ifanc i gadw rhywfaint o leithder.

Mae'r Wisteria ar ben Pont y Mileniwm wedi cael ei thocio y mis hwn hefyd. Ar ôl bron gorffen blodeuo, nid yn unig y mae byrhau'r twf ystwyth o eleni yn ei gadw allan o ffordd beicwyr a'r cyhoedd ar y bont, mae hefyd yn helpu i annog blagur blodau y flwyddyn nesaf i ddatblygu trwy adael i’r haul ac aer ddod i mewn.


Cadwch lygad am y canlynol:
Yr Hydrangea paniculata ‘hufen a mefus’ hyfryd ym Mrodordy’r Brodyr Duon.




