Nodiadau’r Prif Arddwr: Ebrill 2026

Cyhoeddwyd 30th Ebr, 2026

Gan Ben Barker, Prif Arddwr

Mae Ebrill wedi dod â digon o ddyddiau cynnes, a chyda nhw ymdeimlad newydd o optimistiaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Y prif ffocws ar yr adeg hon o’r flwyddyn yw gorffen fforchio a chwynnu’r border blodau, ond rydym hefyd yn cael cyfle i’w fwynhau yn ei gyfnod cynnar o flodeuo wrth i dyfiant ifanc gael ei ddisodli gan y blodau cyntaf. Mae’r pocedi o diwlipau wedi bod yn amlwg iawn, ac mae’r cyfuniad o Persicaria officinalis, Lysimachia ciliata ‘Firecracker’, a Geum ‘Totally Tangerine’ yn ffefryn personol.

orange Geum flowers with green foliage around them
Geum ‘Totally Tangerine’
Dicentra spectabilis pink bleeding heart flowers
Dicentra spectabilis
Centaurea montana cornflower April 2026
Centaurea montana

Mae’n bwysig llenwi bylchau ar yr adeg hon o’r flwyddyn hefyd. Mae bylchau’n ymddangos lle mae planhigion naill ai’n methu neu wedi cael eu symud neu eu tynnu, ac rydym wedi bod yn eu llenwi ag amrywiaeth o bethau gan gynnwys Salvia ‘Nachtvlinder’, Stipa calamagrostis, Cephalaria gigantea, Echinacea ‘Hot Summer’, Phlomis tuberosa ‘Amazone’ and Penstemon ‘Raven’.

Mewn mannau eraill mae’r ddrysfa bylbiau ger y casgliad o geirios hefyd yn dod i’w hanterth, gyda Camassia ‘Caerulea’, Alliums‘Mount Everest’ a ‘Purple Sensation’ yn eu blodau.

Mae Gardd Stuttgart wedi cael rhywfaint o sylw hefyd. Mae’r glaswellt Luzula nivea wedi cael ei glirio, gan gael gwared ar y blodau meirw, a lle roedden ni wedi disodli’r tocwaith Buxus marw o amgylch y gwelyau tymhorol gyda Hebes dros dro, bellach mae 12 Teucrium fruiticans a fydd hefyd yn cael eu tocio yn y pen draw. Mae’r Hebes wedi cael eu hailgartrefu yn yr adrannau Camelia.

Mae ein gwirfoddolwyr gwych wedi helpu i ychwanegu dros 1,000 o gennin Pedr yn rhagor i’r ardal fawr yn ne’r parc, gan blannu Narcissus ‘California’ a ‘Holland Sensation’ yn un o’r ychydig fylchau oedd ar ôl. Roedd y bylbiau wedi cael eu defnyddio mewn un o’n safleoedd eraill ni, a chawsant eu codi ar ôl iddyn nhw orffen blodeuo.

Rydym yn sicrhau bod tyfiant yn cael ei adael am o leiaf wyth wythnos ar ôl i’r cennin Pedr blodeuo cyn iddynt gael eu torri’n ôl – mae hyn yn caniatáu i egni gael ei anfon yn ôl i’r bwlb ac yn helpu i gynhyrchu’r blodau yn y tymor canlynol. Pan gawsant eu cyfri ddiwethaf roedd 39,000 o Narcissus wedi’u cynefino yn yr ardal honno – llawer o waith ond mae bron i dri mis o flodeuo yn olynol yn gwneud y cyfan yn werth chweil.


Cadwch lygad am y canlynol…

Pencampwr Prydain Fawr 2022 Paulownia tomentosa (coeden bysedd y cŵn) gyferbyn â Chaffi’r Tŷ Haf, gyda’i blodau porffor trawiadol.

Paulownia tomentosa Foxglove tree full of purple flowers against a blue sky