Arbenigwyr coed yn canmol coedlun Caerdydd ar ôl ymweld â Pharc Bute

Cyhoeddwyd 13th Mai, 2026

Ar 8 Mai, croesawodd Parc Bute y Gymdeithas Coedyddiaeth Ryngwladol, sefydliad o arbenigwyr a selogion coed ar gyfer taith o amgylch yr ardd goed. Mae’r Gymdeithas yn bodoli i hyrwyddo astudio a mwynhau coed, dod â choedyddwyr o bob cwr o’r byd at ei gilydd, a diogelu a gwarchod rhywogaethau planhigion prin ac mewn perygl ledled y byd.

Ymwelodd aelodau’r gymdeithas â Pharc Bute i edrych ar rai o’r 3,000 o goed sydd wedi’u catalogio’n unigol, yn ogystal â 51 o Goed Campus y Parc. Cydnabyddir mai Coed Campus yw’r talaf neu’r mwyaf llydan o’u math yn Ynysoedd Prydain.

a group of people from the IDS looking at a tree in Bute Park
white flowers on a branch on a handkerchief tree
people enjoying touring the arboretum in Bute Park

Dywedodd Dr Owen Johnson, aelod o’r Gymdeithas ac awdur Canllaw i Goed Collins:

“Mae Caerdydd wedi mynd ymhellach nag unrhyw ddinas arall yn y DU wrth greu coedluniau cadarn, hardd a deniadol gyda gwerth bioamrywiaeth uchel; dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw ddinas arall debyg yn y byd.

“Mae gan Barc Bute dair gwaith cymaint o Goed Campus y DU na’r parc cyhoeddus â’r ail nifer mwyaf – sef Parc y Rhath. Mae’r ystadegau hyn hefyd yn cyfateb i ddiddordeb botanegol y parciau hyn.”

group photo of IDS and Cardiff Parks staff in Bute Park with trees in the background

Dwedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: 

“Mae bod yn geidwaid casgliad mor wych o goed yn anrhydedd go iawn. Mae ein tîm parciau yn ymfalchïo mewn gofalu amdanynt, yn ogystal ag ychwanegu coed newydd at y casgliad i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Mae Caerdydd yn gartref i barciau a mannau gwyrdd gwych a byddwn yn annog pobl i fynd allan i’w harchwilio.”

Group photo of Bute Park team and dendrology society members inside the visitor centre at Bute Park
White iced cake with motif to commemorate IDS visit to Bute Park

Mae llwybrau Coed Campus, sy’n tywys ymwelwyr o amgylch rhai o’r coed mwyaf nodedig yng nghasgliad Parc Bute, ar gael ar wefan Parc Bute.