Nodiadau'r Prif Arddwr: Awst 2026
Cyhoeddwyd 29th Awst , 2026Gan Ben Barker, Prif Arddwr
Mae'r glaswellt ym Mharc Bute wedi bod yn edrych yn fwy sych nag ir ers sawl wythnos bellach, felly penderfynwyd cael gwared ar y safleoedd glaswellt hir 'un-toriad' yn gynt nag arfer eleni. Fel arfer rydyn ni'n torri'r rhain o fis Medi ymlaen. Bydd gwneud hynny nawr yn helpu i leihau'r perygl o danau yn y parc ac yn helpu i ysgogi twf newydd pan fydd y cyfnod sych yn dod i ben yn y pen draw.
Mewn mannau eraill, gan fod y borderi yn edrych yn anarferol o wag ar gyfer yr adeg hon o'r tymor, mae'r pwyslais wedi bod ar dacluso ardaloedd nad ydyn nhw wedi cael llawer o sylw hyd yn hyn eleni.
Ochr yn ochr â'r gwaith parhaus ar y border blodau, mae ein gwirfoddolwyr garddio rheolaidd wedi chwynnu, tocio a thaenu gwellt o amgylch Pumbaa, yn ogystal â thynnu mieri a chwlwm y cythraul o blith y Camelia yn y coetir addurniadol. Rydym wedi bod yn codi coronau'r Rhododendron yn yr ardal hon hefyd. Codi'r goron yw pan fyddwn yn tynnu’r canghennau is i godi uchder sylfaen y goron. Mae hyn yn lleihau ei bwysau ac yn caniatáu i olau ac aer lifo'n fwy rhydd. Mae hefyd yn agor llwybr clir drwy'r ardal, gan ei atal rhag mynd yn orlawn ac yn gudd.


Rydym hefyd wedi dechrau clirio o amgylch y goeden cnau Ffrengig sylweddol - ond marw - (Juglans cinerea) yng Nghoed yr Hen Ŵr. Mae'r ardal wedi ei gadael i dyfu'n drwchus gyda mieri dros y blynyddoedd diwethaf, a lle’r oedd wedi'i amgáu gan ffens, mae hynny wedi'i dynnu bellach ynghyd â hen ganghennau a boncyffion i agor yr ardal a chaniatáu i'r eginblanhigion llai a hunan-hadwyd ffynnu heb eu rhwystro.





