“Rydyn ni ynddi gyda’n gilydd, cadwch ein parciau yn lân” – apêl gan Ken o’r Tîm Glanhau Strydoedd

Cyhoeddwyd 12th Jun, 2020

Yr wythnos diwethaf, cafodd Ken, un o’n cydweithwyr yn y tîm glanhau, sylw mawr ar y we yn gofyn i bobl fynd â’u sbwriel adref.

Cawsom sgwrs ag e i weld pam mae’n ei wylltio gymaint.

Meddai Ken, “Mae’r rhan fwyaf o bobl yn iawn (gyda’u sbwriel) ond mae cynnydd enfawr yn y sbwriel ers cychwyn y cyfnod cloi. Yn amlwg, mae llawer iawn o bobl i ffwrdd o’r gwaith felly dydy’r dyddiau ddim yn normal i unrhyw un bellach.”

“Gyda mwy a mwy o bobl yn mynd i’r parciau i wneud eu hymarfer dyddiol neu i gwrdd â’i gilydd dan y canllawiau ymbellhau cymdeithasol, rydyn ni’n glanhau sbwriel o’r parciau bob dydd, a ninnau’n gallu gwneud hynny unwaith yr wythnos o’r blaen.”

“Rydyn ni’n dod o hyd i farbeciws sydd dal ynghyn, yn llosgi yn y biniau, sydd mor beryg ac mae hi’n ddrud newid y biniau.”

“Dydy’r Llywodraeth ddim yn argymell cael barbeciws mewn mannau cyhoeddus, ond ein cyngor cyn y cyfnod cloi oedd y dylid eu gadael nhw ar y concrit, wrth ymyl y biniau, i’w casglu. Ddylen nhw ddim cael eu gadael ar y glaswellt nac yn y biniau achos mae hyn yn berygl tân.”

“Mae llawer o boteli, caniau a sbwriel picnic sy’n frith o amgylch y parciau. Rydyn ni’n edrych yn ofalus nad oes gwydr wedi torri, dim offer chwarae neu ymarfer corff wedi torri achos mae rhai pobl yn dal i ddefnyddio’r rhain. Dilynwch ganllawiau’r Llywodraeth a pheidiwch â defnyddio’r offer yma o gwbl.”

“Mae cymaint o gewynnau budr yn cael eu gadael. Mae gennym wasanaeth hylendid y gall trigolion gofrestru ar ei gyfer.  Yna caiff eich cewynnau eu casglu’n bob wythnos.  Un wythnos mewn bagiau melyn, ac wythnos arall gyda’r gwastraff cyffredinol.

Plîs, ewch â nhw adref gyda chi.”

 Ken yn ei flaen, “Diolch yn fawr i Grŵp Afonydd Caerdydd a Cadwch Gymru’n Daclus, hebddyn nhw fydden ni ddim yn gallu ymdopi. Mae’r rhan fwyaf o’m cydweithwyr yn gweithio ar eu pennau eu hunain oherwydd rheolau ymbellhau cymdeithasol ac allen ni ddim ymdopi heb gymorth y gwirfoddolwyr hyn”.

“Rwy wrth fy modd gyda fy ngwaith, fe fyddai’n hoffi edrych yn ôl ar y parc glân a meddwl ‘Waw, fi wnaeth hynna; mae’n lân.” Rwy’n falch o helpu i gadw Caerdydd yn daclus. Dydw i ddim ond yn gofyn i bobl fod yn ystyriol a’n helpu ni. Gorau po fwyaf y gall pobl ei wneud i’n helpu ni.”

“Rydyn ni ynddi gyda’n gilydd.”

Diolch yn fawr i Ken, yr holl dîm glanhau a’n gwirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed i gadw ein mannau cyhoeddus heb sbwriel.

Cofiwch fynd â’ch sbwriel adref neu gael gwared arno’n gywir. Gallech gael dirwy £100 am adael sbwriel. Dysgwch fwy yma.