Gwaith Cynnal a Chadw Tir Arfaethedig
Cyhoeddwyd 17th Chw, 2025Cynnal a Chadw Tir wedi'i Gynllunio
Gwaith Rheoli Llystyfiant a Choed Parc Bute
Yn ddiweddar, mae amrywiaeth o waith rheoli llystyfiant a choed wedi bod yn mynd rhagddo yn ardal y Gored Ddu ym Mharc Bute, gyda rhagor o waith wedi’i drefnu dros yr wythnosau nesaf.
Mae angen gwneud y gwaith hwn i sicrhau diogelwch y cyhoedd ar gyfer y digwyddiadau Blackweir Live. Mae cwmpas y gwaith yn gyfyngedig ac ni fydd yn effeithio ar ardd goed Parc Bute, a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae'r holl waith yn cael ei wneud gan gontractwyr coed cymwys a phrofiadol sydd wedi’u cymeradwyo gan y Gymdeithas Goedyddiaeth, dan oruchwyliaeth agos ymgynghorydd ac ecolegydd coed annibynnol.
Bydd hyn yn sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol ar fywyd gwyllt ac yn sicrhau'r buddion mwyaf o ran bioamrywiaeth.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud nawr er mwyn osgoi ymyrryd â thymor nythu adar. Mae coed hefyd yn cael eu gwirio am unrhyw arwyddion o nythu a bywyd gwyllt arall cyn dechrau unrhyw waith.
Mae’r gwaith yn cynnwys:
- Cwympo 5 onnen sy'n dioddef o glefyd coed ynn ac un llwyfen farw i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Bydd boncyff un onnen yn cael ei chadw fel ‘monolith’ i ddarparu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt. Oherwydd agosrwydd y coed hyn at y beicffordd a llwybrau troed, byddai wedi bod yn angenrheidiol cael gwared arnynt beth bynnag, heb ystyried y digwyddiad Blackweir Live sydd wedi’i drefnu.
- Cael gwared ar 10 i 15 o goesynnau ynn unigol oherwydd clefyd coed ynn.
- Bôn-docio 12 coeden i greu pwyntiau mynediad ar gyfer y digwyddiadau wrth y Gored Ddu. Dim ond ar goed addas, iach, sy'n gallu adfer ac aildyfu y mae'r gwaith bôn-docio hwn yn cael ei wneud. Mae'n golygu eu torri yn ôl i lefel y ddaear. Mae bôn-docio yn annog adfywio ac aildyfu dros amser. Nid yw bôn-docio yn lladd coed – hyd yn oed i'r lefel hon sy'n ofynnol yn yr achos hwn i alluogi mynediad – a gall arwain at welliannau cyffredinol o ran bioamrywiaeth. Ni fydd bôn-docio’r coed hyn yn effeithio ar ardd goed Parc Bute, a gydnabyddir yn genedlaethol.
- Cael gwared ar aelodau a phren marw neu godi corun sawl coeden, sy'n broses arferol ar gyfer cynnal a chadw coed nad yw'n effeithio ar iechyd coed.
- Clirio amrywiaeth o brysgwydd - mieri a rhododendronau estron goresgynnol yn bennaf.
- Gadael rhywfaint o bren a thocion ar y safle mewn pentyrrau cynefin i ddarparu cynefin i bryfed a bywyd gwyllt arall. (Mae’r tocion hyn yn cynnwys canghennau llai, brigau a dail sydd fel arfer yn cael eu tynnu wrth docio neu gwympo coed.)
- Codi corunau coed ar y llwybrau gogleddol a gorllewinol o amgylch Caeau’r Gored Ddu. Mae codi corunau yn golygu cael gwared ar ganghennau isel ac nid yw'n effeithio ar iechyd cyffredinol coed. Mae'n cael ei wneud i sicrhau hygyrchedd ar lwybrau.
Mae'r math hwn o waith yn cael ei wneud mewn gwahanol barciau, coetiroedd a mannau gwyrdd fel rhan o raglenni cynnal a chadw a rheoli cadwraeth parhaus.
Dewiswyd y pwyntiau mynediad penodol ar gyfer digwyddiadau Blackweir Live oherwydd eu llystyfiant llai trwchus.
Bydd y digwyddiadau hyn yn creu incwm i'r Cyngor, a fydd yn cael ei glustnodi i gefnogi uchelgeisiau Dinas Gerdd y ddinas tra hefyd yn darparu buddsoddiad ychwanegol i barciau'r ddinas.
Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Cyfeillion Parc Bute, i ddod o hyd i ragor o gyfleoedd buddsoddi ym Mharc Bute. Bydd rhaglen blannu newydd hefyd yn cael ei datblygu.
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi plannu mwy na 100,000 o goed newydd ac mae’n parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu gorchudd canopi coed yn y ddinas o 18.9% i 25% drwy ei brosiect coedwig ddinesig, Coed Caerdydd.