Toiledau
Cyhoeddwyd 16th Ebr, 2020Rhaid i Drefnwyr Digwyddiadau sicrhau eu bod yn darparu digon o doiledau ar gyfer nifer y bobl sy’n mynychu’r digwyddiad, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer pobl anabl a newid babanod.
Rhaid i chi hefyd sicrhau bod darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud ar gyfer holl staff y digwyddiad drwy eich adeilad yn ogystal â dros nos ar gyfer eich tîm diogelwch.
Dylid cytuno ar union leoliadau a threfniadau gwasanaethu drwy ymgynghori â Rheolwr Digwyddiadau Parc Bute.
Dylid marcio eich lleoliad(au) arfaethedig a nodwch y math(au) o doiledau ar eich cynllun safle.
NI DDYLID gosod toiledau o dan neu ger y canopi o goed.
Rhaid cloi toiledau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Rhaid rhoi ffensys o amgylch toiledau i’w diogelu os cânt eu gadael ar y safle dros nos (ac nid o fewn safle caeedig y digwyddiad).
Rhaid i gyflenwyr toiledau ddarparu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, asesiad risg ac ati i drefnydd y digwyddiad.
Rhaid cynnwys amseroedd gollwng a chasglu yn eich Amserlen Gynhyrchu a Cherbydau.
Mae gan rai safleoedd fynediad cyfyngedig i doiledau cyhoeddus. Cyfeiriwch at bob safle digwyddiad am wybodaeth.
Gweler Ymateb i Ollyngiadau
Gweler Dŵr Gwastraff