Alcohol

Cyhoeddwyd 20th Mar, 2023

Mae hyn yn berthnasol i bob digwyddiad ac mae’n cynnwys y rhai lle mae tocynnau a werthir yn cynnwys darparu alcohol, darparu alcohol yn gyfnewid am arian neu ddarparu alcohol yn rhad ac am ddim.

Cyfeiriwch at fanylion Trwydded Safle safonol y safle a roddir yn Gweithgaredd Trwyddedadwy os ydych yn bwriadu darparu alcohol o far neu gan arddangoswyr mewn cynwysyddion ar gyfer yfed oddi ar y safle fel poteli ac ati.

Chi fel Trefnydd y Digwyddiad sy’n gyfrifol am gadarnhau amodau’r drwydded a fydd yn berthnasol i’ch digwyddiad penodol a sicrhau y cedwir yn gaeth at holl amodau’r drwydded.

Efallai y bydd swyddog Cyngor yn ymweld â chi neu un a benodwyd dros gyfnod y digwyddiad i sicrhau y cedwir at delerau ac amodau y drwydded. Mae’r tâl am yr ymweliadau trwyddedu yn seiliedig ar isafswm galwad 4 awr a’r gyfradd dros y penwythnos yw £24/hr +TAW.

Cyflwynwch yr holl waith papur i’r Swyddog Digwyddiadau Cyngor Caerdydd perthnasol yn y lle cyntaf drwy parcbute@caerdydd.gov.uk

Trwydded Safle / Amrywio Goruchwylydd Safle Dynodedig (GSD/DPS)

Mae gan ein safle Parc Bute / Gerddi Soffia Drwydded Safle.  Fodd bynnag, nid oes swyddog penodedig Goruchwylydd Safle Dynodedig (GSD) a enwir ar y drwydded ac felly nid yw’n bosibl gwerthu alcohol ar y safle. Er mwyn gweini alcohol ar y safle, rhaid i drefnydd digwyddiad gynnig GSD.

Rhaid i’r GSD fod yn (deiliad trwydded bersonol) gymwys ac addas a bod â digon o atebolrwydd/cyfrifoldeb dros reolaeth digwyddiadau i sicrhau bod y pedwar amcan trwyddedu a’r amodau trwydded yn cael eu bodloni (Parc Bute / Gerddi Soffia). Efallai y bydd hyn yn gofyn am gyfrifoldeb terfynol dros wneud penderfyniadau ar faterion ehangach, e.e. amseroedd rhedeg adloniant, diogelwch a’r gallu i wneud penderfyniadau ar y safle yn y digwyddiad.

Mae hyn yn golygu nad yw o reidrwydd yn briodol mai’r GSD yn syml yw’r gweithredwr bar. Byddem yn edrych ar eich strwythur gorchymyn a rheoli digwyddiadau i fodloni ein hunain y gall yr unigolyn arfaethedig gyflawni’r ddyletswydd yn effeithiol cyn cytuno i dderbyn eich GSD arfaethedig.

Amserlen Weithredu/Cynllun Gweithredol

Bydd Panel Cyswllt y Digwyddiad (PCD) yn chwilio am sicrwydd bod GDS priodol wedi’i sicrhau felly gwnewch hynny yn rhan o’ch cyflwyniad iddynt.

Mae ein trwydded yn mynnu bod Amserlen Weithredu/Cynllun Gweithredol yn cael ei gyflwyno i’r PCD a Thrwyddedu Heddlu De Cymru (HDC) dim llai na 56 diwrnod cyn y digwyddiad.

Bydd y drwydded yn cael ei phasio i Drwyddedu HDC a Thîm Trwyddedu’r Cyngor gan Gyngor Caerdydd fel deiliad y Drwydded Safle. 

Os yw HDC yn derbyn yr amserlen weithredu yn hwyrach na 56 diwrnod cyn y digwyddiad, yna gellir gosod amodau.  Byddai’r rhain yn cael eu cadarnhau’n ysgrifenedig gan HDC o fewn 10 diwrnod i dderbyn hysbysiad o’r digwyddiad.

Cwblhewch a dychwelyd y “Cynllun Gweithredol – Templed 2022 f3”

Amrywio Goruchwylydd Safle Dynodedig (GSD)

Bob tro mae digwyddiad yn ein safle lle bydd alcohol yn cael ei werthu, mae angen cyflwyno cais i parcbute@caerdydd.gov.uk gan drefnydd y digwyddiad i amrywio’r GSD o leiaf 14 diwrnod cyn y digwyddiad, ond gorau po gyntaf.

Parc Bute fydd yn talu’r ffi i newid y GSD, mae hyn wedi ei gynnwys yn eich ffi llogi. Mae gennym drefniant yn fewnol gyda’r Tîm Trwyddedu.

Cwblhewch

  1. “Ffurflen Caniatâd GSD Parc Bute”
  2. Proses ymgeisio i amrywio’r ffurflen GSD

Rhaid cyflwyno’r cais hwn ynghyd â ffurflen ganiatâd wedi’i llofnodi gan y GSD arfaethedig.

Bydd angen i’r GSD cymeradwy hefyd dynnu eu hunain oddi ar y Drwydded Safle ar ôl y digwyddiad (Cais i gael dileu fel goruchwylydd safle dynodedig i Gyngor Dinas Caerdydd (www.gov.uk) ) neu byddant yn aros fel GSD yn barhaus.

Efallai y bydd aelod o’r Cyngor yn ymweld â chi i sicrhau bod telerau ac amodau eich trwydded yn cael eu cynnal.Cyswlltwch â’r  Panel Cyswllt Digwyddiadau
Gweler PCD
Gweler Safonau Masnach

Canllawiau ar bob digwyddiad