Ynghudd yn y coed y tu ôl i Gaffi’r Tŷ Haf, mae 11 eitem chwarae awyr agored yn creu llwybr cydbwyso coetir cyffrous a hwyliog i bobl ifanc neu’r rhai sy’n teimlo’n ifanc.
Mae dwy goeden â’u pennau i waered yn nodi man cychwyn a gorffen y llwybr.
Mae hefyd lawer o nodweddion chwarae naturiol eraill ar hyd a lled y parc gan gynnwys nifer o gerfluniau a seddi deongliadol, yn ogystal â choed byw a rhai sydd wedi cwympo. Wrth ddringo ar unrhyw un o’r rhain, byddwch yn ddiogel ac yn gyfrifol.
Manylion
Cyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau Parc ButeAtyniadau
- Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
- Llwybr Ffitrwydd
- Coed Campus
- Coedwigoedd Y Goredd Ddu
- Taith Antur Bywyd Gwyllt