Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd i blannu perllannau cymunedol newydd ym Mharc Bute. Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu a’i arwain gan grŵp cymunedol gyda chymorth Cyfeillion Parc Bute.
Mae dau leoliad ar gyfer y perllannoedd: y brif un i’r gogledd o gaeau chwarae’r Gored Ddu, ac un llai gerllaw safle hanesyddol ‘Lawnt y Berllan’.

Mae’r safle llai yn gyfle i gyflwyno ymwelwyr y parc i fanteision perllannau a’u cyfeirio at y safle mwy o faint. Plannwyd y coed yma ar 30 Tachwedd 2022.
Mae’r gwahanol goed a ddewisir yn cynnwys:
- Coed afalau Malus domestica ‘afalau rhesog Ribston’ (yn lle ‘Hawthornden’)
- Coed gellyg ‘Pitmaston Duchess’
- Coed eirin gwyrdd ‘Hen eirin gwyrdd’
- Coed afalau ‘Beauty of Boskoop’ (yn lle ‘Beauty of Hants’)
- Coed ceirios ‘Ceirios duon’
- Coed eirin Eirin cochion
- Coed gellyg Beurre Hardy
- Coed ceirios Rivers Early (yn lle Bottler)
Plannwyd coed ar brif safle’r berllan ar 26 Chwefror 2024 ac 1 Mawrth 2025.



Roedd y coed cyntaf a blannwyd yn cynnwys:
- Coeden Afalau Surion Gŵyr + Uchelwydd Malus sylvestris + Viscum album
- Coeden afalau Malus domestica amr. Afalau rhytgoch Egremont
- Coeden afalau Malus domestica amr. Peasgood Nonsuch
- Coeden afalau Malus domestica amr. Golden Spire
- Coeden afalau Malus domestica amr. Eginblanhigyn Bramley Gwreiddiol
- Coeden ellyg Pyrus communis amr. Williams Bon Chretien
- Coeden ellyg Pyrus communis amr. Doyenne Du Commice
- Coeden ellyg Pyrus communis amr. Pitmaston Duchess
- Coeden geirios du Prunus avium amr. Bottler
- Coeden geirios coch Prunus cerasus amr. Ceirios Duon
- Coeden geirios du Prunus avium amr. Mawr Duon
- Coeden eirin Prunus domestica amr. Pershore Yellow Egg
- Coeden eirin gwyrdd Prunus domestica is-rh. italica amr. Hen goeden eirin gwyrdd
- Coeden eirin bwlas Prunus domestica is-rh. insitia amr. Shropshire Prune
- Coeden eirin gwyrdd Prunus domestica is-rh. italica amr. Count Althans
- Coeden eirin Prunus domestica amr. Eirin cochion


