Mae Brodies on the Wall yn siop goffi yn adeilad Porth y Gorllewin ym Mharc Bute, ar bwys mynedfa Stryd y Castell. Mae wedi’i lleoli yn hen safle Ystafelloedd Te Pettigrew.
Mae’r siop goffi yn cynnig seddi dan do ac yn yr awyr agored, gyda golygfeydd o ddarn poblogaidd o’r parc ac Afon Taf.
Mae’r siop goffi yn cynnig bwydydd a diodydd i’w bwyta a’u hyfed yno neu i’w cludo oddi yno, megis:
- bapiau brecwast,
- brechdanau wedi’u tostio,
- brechdanau,
- cacennau a bwyd pob,
- te hufen,
- smwddis,
- hufen iâ, a
- choffi a the arbenigol.
Mae toiledau (gan gynnwys cyfleusterau i bobl anabl a newid cewynnau) ar gael.



Oriau agor
9am i 6pm, 7 diwrnod yr wythnos.
Hanes adeilad Porth y Gorllewin
Adeiladwyd mynedfa fawreddog yr ystâd – Porth y Gorllewin – rhywbryd ar ôl 1860 ac fe’i defnyddiwyd yn wreiddiol fel llety i gyflogeion y Castell. Ar ôl i’r parc gael ei roi i bobl Caerdydd ym 1947, roedd yn cael ei defnyddio ar gyfer cyflogeion y parc a’r castell ac fel ystafell fwyta i geidwaid y parc.
Ar ôl adfer yr adeilad rhestredig, agorwyd Ystafelloedd Te Pettigrew yn 2012, cyn newid i Brodies on the Wall yn 2025.
Mae’r teils Fictoraidd hardd a oedd wedi’u hadfer o safle hanesyddol Brodordy’r Brodyr Duon wedi’u gosod ar lawr yr ystafelloedd te.




Manylion
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch wneud y canlynol:
- Ewch i Brodies Coffee Co ar Instagram neu Facebook
- E-bostiwch hello@brodiescoffee.co.uk
Cyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau i gyrraedd Parc Bute.
what3words: daily.value.puzzle
Manylion
Ewch i'r wefanCyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau Parc ButeAtyniadau
- Castell Caerdydd
- Caffi’r Tŷ Haf
- Caffi’r Ardd Gudd
- Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
- Wal Derfyn y Dwyrain