Parc Bute yn cael Allwedd Werdd
Cyhoeddwyd 20th Rhag, 2019Mae Canolfan Addysg Parc Bute wedi ennill Allwedd Werdd gan ymuno â rhestr o gyrchfannau twristiaeth mwyaf cynaliadwy Cymru.
Mae’r Ganolfan Addysg a Hyfforddi, y mae’r cyngor yn berchen arni, a’r ardd furiog o’i chwmpas, hefyd yn gartref i Gaffi’r Ardd Gudd a menter gymdeithasol, Gardd Salad Caerdydd.
Mae’r tri meddiannwr yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i greu hyb cynaliadwy yng nghanol y parc sydd hyd yn oed yn gwneud defnydd o’r gwastraff sy’n cael ei greu yn y ganolfan.
Mae papur rhacs a gwastraff bwyd y caffi a thîm y ganolfan yn cael eu bwydo i mewn i’r abwydfa i greu compost a gwrtaith hylifol. Mae’r compost a’r gwrtaith wedyn yn cael eu rhoi i’r Ardd Salad a’u defnyddio i dyfu amrywiaeth o ddail salad. Mae’r dail salad wedyn yn cael eu hanfon i Gaffi’r Ardd Gudd (a bwytai lleol eraill) gan greu dolen gaeedig.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Yr Allwedd Werdd yw eco-label mwya’r byd, ac mae wedi’i chyflwyno i fwy na 3,200 o ddarparwyr twristiaeth, o westai boutique i safleoedd gwersylla, llety gwely a brecwast, atyniadau a nawr y Ganolfan Addysg yn un o hoff barciau pobl Caerdydd.” “Mae Parc Bute wedi cyflawni gwobr Draig Werdd Lefel 4 yn barod ac mae’n un o 12 safle Baner Werdd y ddinas. Gydag Allwedd Werdd i’w hychwanegu at y casgliad, mae’r parc yn galon werdd i’r ddinas yng ngwir ystyr y gair.”
Mae’r fenter Allwedd Werdd yn cael ei rhedeg gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol ac yn cael ei rheoli yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, sydd hefyd yn rheoli’r Faner Las a rhaglenni Eco-Sgolion.
Dywedodd Cydlynydd yr Allwedd Werdd, Nick Ashby: “Hoffem longyfarch Canolfan Addysg Parc Bute ar eu llwyddiant yn cyflawni’r Allwedd Werdd am eu cyfleusterau cyfarfod campus. Mae’n wych gweld bod cynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnânt. Mae’n dangos y gallwch leihau effaith amgylcheddol cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau heb effeithio ar ansawdd.”
Mae’r Ganolfan Addysg ar agor fel pwynt gwybodaeth 7 diwrnod yr wythnos ac mae yna 2 ystafell gyfarfod y gellir eu llogi ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai a chynadleddau bach.