Diweddariad Holi ac Ateb byw Blackweir Live
Cyhoeddwyd 2nd Mai, 20251.5.25
Rydw i wedi clywed bod cynlluniau i gynnal cyngherddau ar Gaeau’r Gored Ddu. Allwch chi ddweud mwy wrtha’ i?
Mae cerddoriaeth fyw yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer Caerdydd.
Daeth yr hyrwyddwyr lleol Depot Live, gan weithio mewn partneriaeth â Cuffe & Taylor at y Cyngor y llynedd ynglŷn â’r posibilrwydd o logi Caeau’r Gored Ddu i gynnal cyfres o gyngherddau awyr agored, maes glas, tebyg i’r rhai gaiff eu cynnal yn Hyde Park yn Llundain yn ystod misoedd yr haf.
Wedi’u gwasgaru dros bum dyddiad gwahanol ym mis Mehefin a Gorffennaf, bydd y cyngherddau yn cynnwys artistiaid byd-enwog gan gynnwys Noah Kahan (Mehefin 27), Kings of Leon (Mehefin 29), Alanis Morissette (Gorffennaf 2), Slayer (Gorffennaf 3) a Stevie Wonder (Gorffennaf 9).
Bydd y digwyddiadau yn helpu i gadarnhau statws Caerdydd ymhlith artistiaid mawr fel cyrchfan sy’n rhaid chwarae ynddi, gan ddod â manteision economaidd sylweddol i’r ddinas ac incwm hanfodol i’r Cyngor i’n galluogi i barhau i fuddsoddi ym mharciau ein dinas. Bydd incwm o’r digwyddiadau hefyd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau dinas gerddoriaeth, cefnogi ein lleoliadau llawr gwlad a pharhau i hyrwyddo’r ddinas fel cyrchfan gerddoriaeth.
Pam defnyddio Caeau’r Gored Ddu? Oni ellid cynnal y digwyddiadau hyn mewn stadiwm?
Mae Caeau’r Gored Ddu yn ofod digwyddiadau sefydledig ac wedi bod ar gael i’w logi yn fasnachol ers blynyddoedd lawer. Mae wedi bod yn gartref i ddigwyddiadau ar raddfa fawr yn y gorffennol, gan gynnwys arddangosfeydd tân gwyllt a gweithgareddau fel rhan o’r Gemau Olympaidd a’r Eisteddfod.
Cysylltodd hyrwyddwyr y digwyddiad â’r Cyngor gyda chynnig i logi Caeau’r Gored Ddu ar gyfer cyfres o gyngherddau awyr agored, maes glas. Mae’r math hwn o ddigwyddiad yn boblogaidd gyda’r cyhoedd sy’n prynu tocynnau ac yn cynnig profiad gwahanol iawn i gigs stadiwm.
A oes gan y digwyddiadau hyn drwydded i allu mynd yn eu blaen?
Oes. Mae trwydded safle ar gyfer Caeau’r Gored Ddu fel rhan o drwydded ehangach Parc Bute, wedi bod ar waith ers amser maith.
Cymeradwywyd trwydded safle newydd yn benodol ar gyfer Caeau’r Gored Ddu gan yr Is-bwyllgor Trwyddedu ar 16 Ebrill. I roi trwydded mae’n rhaid i’r pwyllgor ystyried pedwar amcan trwyddedu, sef:
- atal trosedd ac anrhefn,
- diogelwch y cyhoedd,
- atal niwsans cyhoeddus, a
- gwarchod plant rhag niwed.
Cymeradwywyd y cais yn amodol ar yr amodau canlynol:
- Dim ond ar gyfer 6 digwyddiad y flwyddyn y gellir defnyddio’r drwydded.
- Rhaid i bob digwyddiad gael cymeradwyaeth yr Awdurdod Priffyrdd.
- Dim ond ar ôl hanner dydd y gellir gwerthu alcohol.
- Rhaid i bob digwyddiad cerddoriaeth gadw at y canllawiau a’r meini prawf o fewn ‘Cod Ymarfer Rheoli Sŵn Amgylcheddol mewn Cyngherddau’y Cyngor Sŵn(a elwir yn ‘Cod Pop’),neu unrhyw ddogfen ganllaw a ddaw yn ei le yn y dyfodol.
- Rhaid cyflwyno cynllun rheoli sŵn yn ysgrifenedig i’w gymeradwyo gan yr adran Rheoli Llygredd o leiaf 28 diwrnod cyn pob digwyddiad neu ddechrau cyfres o ddigwyddiadau a reolir ar y cyd. Bydd y cynllun rheoli yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i;
- Lefelau Sain Arfaethedig ar gyfer y digwyddiad a rhaid mynegi hyn yn nhermau dB dros y cyfnod monitro arfaethedig a’r lleoliad(au).
- Bydd y cynllun yn dogfennu’r fethodoleg sydd i’w gweithredu i fonitro, rheoli a rheoli effaith aflonyddwch sŵn ar gyfer pob digwyddiad.
- Rhaid i’r cynllun ymgorffori proses rheoli cwynion y dylai rheolwyr y safle fanylu ar y broses sydd i’w dilyn pe bai cwyn yn codi.
- Rhaid i’r cynllun gael ei gwblhau gan acwstegydd sydd â chymwysterau priodol.
Pam aeth tocynnau ar werth cyn i drwydded gael ei rhoi?
Gwnaethpwyd y penderfyniad i werthu tocynnau cyn rhoi trwydded lawn gan hyrwyddwr y digwyddiad ac mae’n arfer cyffredin yn y diwydiant cerddoriaeth. Cyhoeddwyd y digwyddiadau gan yr hyrwyddwr ‘yn amodol ar drwydded.’
Fel ardal ddigwyddiadau sefydledig, mae trwydded safle wedi bod ar waith ers tro ar gyfer Caeau’r Gored Ddu fel rhan o drwydded ddigwyddiadau ehangach Parc Bute. Yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, byddai’r drwydded 25,000 o bobl ym Mharc Bute wedi caniatáu i ddigwyddiadau Blackweir Live gael eu cynnal ar gaeau’r Gored Ddu, er gyda chapasiti is nag a fwriedir, hyd yn oed heb y drwydded newydd sydd wedi’i chymeradwyo’n ddiweddar ar gyfer Caeau’r Gored Ddu.
Pam roedd angen trwydded newydd?
Roedd gwneud cais am drwydded newydd benodol i Caeau’r Gored Ddu yn caniatáu i reolaethau mwy llym gael eu rhoi ar waith ynghylch rheoli digwyddiadau ar raddfa fawr yn yr ardal benodol hon o Barc Bute, tra’n osgoi gosod beichiau gweinyddol ac ariannol diangen ar y digwyddiadau llai sy’n digwydd yn y parc ehangach – llawer ohonynt yn cael eu harwain gan y gymuned neu’n cael eu cynnal i gefnogi elusennau.
Beth fydd capasiti’r digwyddiadau newydd yma?
Cymeradwywyd y drwydded safle newydd ar gyfer Caeau’r Gored Ddu ar sail capasiti hyd at uchafswm o 35,000 o bobl.
Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd 35,000 o bobl yn gallu mynychu cyngherddau Blackweir Live. Mae gan wahanol ddigwyddiadau wahanol gapasiti diogel – er enghraifft byddai arddangosfa tân gwyllt yn debygol o fod â chapasiti is na chyngerdd.
O dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005, bydd y penderfyniad terfynol ar gapasiti ar gyfer digwyddiadau Blackweir Live (ac unrhyw ddigwyddiadau dilynol a allai ddigwydd yng Nghaeau’r Gored Ddu) yn cael ei benderfynu gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru fesul achos. Bydd eu hasesiad ar gyfer Blackweir Live yn cael ei wneud maes o law, ar sail cynlluniau gweithredol ar gyfer y digwyddiadau.
Mae hyn yn arfer safonol ar gyfer pob digwyddiad yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill yng Nghymru.
Pam mae’r drwydded yn caniatáu cerddoriaeth o 9am y bore?
Er ei bod wedi’i hanelu’n bennaf at gynnal digwyddiadau cerddoriaeth, mae’r drwydded safle newydd wedi’i chynllunio i fod yn ddigon hyblyg i gwmpasu ystod o ddefnyddiau posibl eraill, os oes angen.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddigwyddiadau eraill wedi’u cynllunio ar y safle hwn, fodd bynnag, pe bai digwyddiad yn ystod y dydd yn cael ei gynnig yn y dyfodol – er enghraifft parth cefnogwyr ar gyfer twrnamaint chwaraeon neu ŵyl fwyd – byddai’r amod trwydded hwn yn golygu, pe bai cerddoriaeth fyw yn rhan o’r cynnig, ni fyddai angen gwneud cais trwyddedu newydd.
Ni fwriedir i gyngherddau Blackweir Live ddechrau tan 5pm ac ni fydd cerddoriaeth fyw cyn yr amser hwn.
A fydd y cyhoedd yn dal i allu cael mynediad i Barc Bute yn ystod y cyngherddau?
Byddant. Bydd cyfran helaeth o 130 erw Parc Bute yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd gydol y cyfnod hwn.
Bydd mynediad cyhoeddus i Gaeau’r Gored Ddu yn cael ei gyfyngu yn ystod y cyngherddau ac am gyfnod byr y naill ochr i ganiatáu gwaith gosod a datgymalu. Bydd manylion llawn unrhyw newidiadau mynediad yn cael eu hysbysebu yn y parc ymlaen llaw.
Mae’r holl gyngherddau Depot Live a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer Cae Cooper yn ddiweddarach yn yr haf wedi cael eu symud i Gastell Caerdydd.
Mae mannau gwyrdd cyhoeddus sylweddol hefyd ar gael yn agos at ofod digwyddiadau y Gored Ddu. Mae 141.60 o erwau gwyrdd cyhoeddus ar gael yng Nghaeau Pontcanna gerllaw gyda 68.89 erw arall ar gael i’r cyhoedd yng Nghaeau Llandaf.
Am ba hyd y bydd mynediad wedi ei atal i Gaeau’r Gored Ddu?
Ar hyn o bryd mae disgwyl i waith adeiladu’r digwyddiad ddechrau ar 12 Mehefin 2025. Ar hyn o bryd disgwylir i’r datgymalu gael ei gwblhau erbyn 21 Gorffennaf.
Bydd mapiau sy’n rhoi manylion llawn yn cael eu harddangos yn y parc, cyn y digwyddiadau.
Rhoddwyd Parc Bute i bobl Caerdydd ac mae’r digwyddiadau hyn yn cyfyngu mynediad i ddeiliaid sydd wedi talu am docynnau. Sut gall hynny fod yn deg?
Mae mynediad cyhoeddus i fannau gwyrdd yn bwysig. Mae’r Cyngor yn deall y pryder hwn a’r effaith dros dro y mae’r digwyddiadau hyn yn ei chael ar ddefnyddwyr eraill y parc.
Fodd bynnag, mae parciau yn wasanaethau anstatudol ac ar ôl toriadau cyllideb sylweddol ddenodd gryn sylw dros y degawd diwethaf, a phwysau parhaus ar gyllidebau llywodraeth leol, mae’n rhaid i ni gydbwyso mynediad cyhoeddus â chynhyrchu incwm sy’n sicrhau y gallwn barhau i gynnal a buddsoddi ym mharciau’r ddinas.
Rydym yn cydnabod yn llwyr fod hon yn weithred o bwyso a mesur – nid yn unig rhwng incwm a mynediad, ond hefyd rôl Caerdydd fel prifddinas, sy’n enwog ledled y byd fel dinas ddigwyddiadau.
Os yw’r holl ddigwyddiadau Depot Live a oedd i fod i ddigwydd yng Nghae Cooper yn symud i’r Castell, pam na all digwyddiadau Blackweir Live symud i Gae Cooper?
Nid yw Cae Cooper yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer y sioeau hyn. Mae Cae Coopers yn cwmpasu ardal o 26,000 metr sgwâr. Mae hyn yn sylweddol llai na’r 64,000 metr sgwâr sydd ar gael yn y Gored Ddu.
Beth fydd yn digwydd i’r gemau criced sydd fel arfer yn cael eu chwarae ar Gaeau’r Gored Ddu?
Yn dilyn deialog gyda chynghreiriau criced lleol a Chriced Cymru, mae’r holl gemau criced sydd i fod i gael eu cynnal yn ystod y digwyddiadau haf hyn wedi’u hadleoli i leoliadau eraill.
Bydd un cae criced yng Nghaeau Blackweir yn parhau i gael ei ddefnyddio am y tymor llawn, ac eithrio ar y pum dyddiad cyngerdd.
O ganlyniad uniongyrchol i’r angen i ddarparu gemau mewn lleoliadau amgen, mae cae criced artiffisial newydd yn cael ei osod yn y Marl yn Grangetown. Mae hwn yn gyfleuster parhaol y bu galw amdano ers amser maith gan y gymuned griced yn yr ardal. Bydd yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl o incwm a gynhyrchir gan y digwyddiadau.
Beth am y caeau criced? Sut maen nhw’n cael eu hamddiffyn rhag difrod?
Nid yw cynnal cyngherddau ar gaeau chwaraeon yn anarferol ac mae gofal arbennig yn cael ei gymryd i amddiffyn y sgwariau criced rhag difrod. Bydd y dechnoleg a ddefnyddir yn y Gored Ddu yr un peth ag a ddefnyddir pan mae meysydd criced proffil uchel, fel Old Trafford, yn cynnal digwyddiadau.
Bydd cynllun adfer tyweirch llawn ar waith ar gyfer y meysydd allanol, gan gynnwys awyru pridd cywasgedig ac ail-hadu unrhyw glytiau fydd wedi’u gwisgo.
Fel rhan o’r cytundeb bond gyda gweithredwr y digwyddiad, bydd y costau o ‘wneud iawn’ unrhyw ddifrod yn cael eu talu gan weithredwr y digwyddiad.
Beth os bydd hi’n bwrw glaw? Sut mae’r meysydd allanol yn cael eu hamddiffyn rhag difrod hirdymor?
Bydd amodau’r tir yn cael eu monitro bob dydd ac os yw tywydd eithafol yn gwneud amodau yn anghynaladwy, mae cymal ‘dewis olaf’ ar waith yn y contract gyda’r hyrwyddwr digwyddiad a fyddai’n caniatáu lleihau ôl troed y digwyddiad, neu o bosibl ei ganslo, os barnir ei fod yn angenrheidiol i atal difrod hirdymor sylweddol.
Onid yw Parc Bute wedi’i restru? A yw hyn wedi’i ystyried?
Ydy, mae Parc Bute yn barc rhestredig Gradd 1.
Ers 2014 mae Parc Bute wedi dal Gwobr Treftadaeth Baner Werdd i gydnabod safon uchel o reoli a dehongli safle sydd â phwysigrwydd hanesyddol lleol neu genedlaethol, gan dynnu sylw at ba mor ddifrifol yr ydym yn cymryd gwarchod y man gwyrdd unigryw hwn.
Fel arfer da, mae asesiad effaith treftadaeth annibynnol yn cael ei gwblhau cyn y digwyddiadau.
Mae’r asesiad annibynnol hwn wedi nodi “gyda lliniaru wedi’i gynllunio’n dda, gellir cyflawni’r cynnig mewn ffordd sy’n gydnaws â chadwraeth gwerthoedd treftadaeth y safle” ac y bydd “yr effaith hirdymor ar y parc hanesyddol cofrestredig yn ddibwys.”
Mae’r asesiad hefyd yn nodi nad yw “cynnal digwyddiadau diwylliannol mewn parciau yn groes i’w gwerth hanesyddol; roedd parciau fel Parc Bute yn hanesyddol yn lleoliadau ar gyfer cynulliadau cyhoeddus a hamdden, felly gellir gweld hyn fel rhan o hanes cymdeithasol esblygol y lle.”
Ymgynghorwyd â CADW hefyd ar y cynigion ac maent wedi cynghori na fydd y digwyddiadau yn effeithio ar nodweddion treftadaeth y parc.
Er mwyn sicrhau mynediad diogel i’r cyngherddau, bydd angen tynnu rhan fach o reiliau’r parc dros dro. Bydd y rheiliau yn cael eu hailosod ar ôl y digwyddiadau ac mae CADW wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n rhan o statws rhestredig y parc.
Beth am yr effaith bosibl ar fywyd gwyllt ac amgylchedd ehangach y parc?
Mae’r hyrwyddwyr digwyddiadau’n cymryd eu cyfrifoldeb o gael gweithio yn lleoliad unigryw a gwerthfawr y parc o ddifrif.
Mae ystyriaeth ofalus wedi’i rhoi i unrhyw effaith amgylcheddol bosibl y gallai’r cyngherddau hyn ei chael ac er bod bywyd gwyllt trefol fel arfer yn gwella unwaith y bydd tarfu yn peidio, bydd mesurau a argymhellir gan arbenigwyr coedwigaeth annibynnol ac ecolegwyr annibynnol yn cael eu rhoi ar waith, lle bo angen, i sicrhau bod unrhyw effaith ar fflora a ffawna yn cael ei lleihau.
Er enghraifft, bydd parthau amddiffyn coed yn eu lle o amgylch unrhyw goed agored i niwed, a bydd cyfeiriadedd y llwyfan a’r dyluniad goleuo yn osgoi taflu goleuadau pwerus i ganopïau coed yn barhaus, gyda goleuadau wedi’u cyfeirio am i lawr yn canolbwyntio ar y llwyfan a’r dorf ac ychydig iawn yn llifo i’r awyr neu’r coed. Mae’r defnydd o oleuadau lliw-tymheredd is ger cyrion hefyd yn cael ei ystyried.
Beth am y coed sydd eisoes wedi’u torri i lawr?
Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd ar gyfer y digwyddiadau, mae pum coeden Onnen heintus sy’n dioddef o glefyd yr Ynn ac un goeden Lwyfen farw wedi’u torri. Oherwydd agosrwydd y coed hyn at y beicffordd a llwybrau troed, byddai wedi bod yn angenrheidiol cael gwared arnynt beth bynnag, er y digwyddiad Blackweir Live neu beidio.
Mae 10 i 15 coesyn onnen unigol hefyd wedi’u tynnu oherwydd clefyd yr Ynn.
Bôn-dociwyd 12 coeden i greu pwyntiau mynediad ar gyfer digwyddiadau’r Gored Ddu. Dim ond ar goed addas, iach, sy’n gallu adfer ac aildyfu y mae’r gwaith bôn-docio hwn yn cael ei wneud. Mae bôn-docio yn cynnwys torri coed yn ôl i lefel y ddaear. Mae hyn yn annog adfywio ac aildyfu dros amser. Nid yw bôn-docio yn lladd coed, a gall arwain at welliannau cyffredinol mewn bioamrywiaeth.
Cynhaliwyd amrywiaeth o waith clirio prysgwydd hefyd i gael gwared ar fieri a rhododendron estron goresgynnol. Cynhaliwyd gwaith cynnal a chadw coed safonol, nad ydynt yn effeithio ar iechyd coed, fel codi coronau a thynnu pren marw hefyd.
Er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw effaith andwyol ar fywyd gwyllt ac i sicrhau’r buddion bioamrywiaeth mwyaf, cafodd yr holl waith ei wneud gan gontractwyr coed cymwys a phrofiadol sydd wedi’u cymeradwyo gan y Gymdeithas Goedyddiaeth, dan oruchwyliaeth agos ymgynghorydd ac ecolegydd coed annibynnol.
Gwnaed yr holl waith cyn y tymor nythu adar a gwiriwyd y coed am unrhyw arwyddion o nythu a bywyd gwyllt arall cyn i’r gwaith gael ei gynnal.
Mae’r math hwn o waith yn cael ei wneud mewn gwahanol barciau, coetiroedd a mannau gwyrdd fel rhan o raglenni cynnal a chadw a rheoli cadwraeth parhaus.
Nid oedd y coed yn rhan o ardd goed Parc Bute a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae rhagor o wybodaeth am y gweithiau hyn ar gael yma: https://bute-park.com/cy/gcac/
A fydd unrhyw goed yn cael eu hail-blannu?
Bydd. Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i gynyddu’r canopi coed ar draws y ddinas, bydd coed yn parhau i gael eu plannu o dan fenter Coed Caerdydd y cyngor.
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi plannu mwy na 100,000 o goed newydd ac mae’n parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu gorchudd canopi coed yn y ddinas o 18.9% i 25% drwy ei brosiect coedwig ddinesig, Coed Caerdydd.
A fydd digwyddiadau Blackweir Live yn effeithio ar safle Perllan Gymunedol Parc Bute?
Na, mae’r Berllan Gymunedol y tu allan i ôl troed y digwyddiad. Bydd trefniadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod y berllan yn cael ei diogelu gyda ffensys amddiffynnol.
Beth am y sŵn?
Mae Parc Bute yn barc canol dinas sy’n cynnal digwyddiadau rheolaidd, gyda llawer ohonynt yn cynnwys cerddoriaeth fyw.
Bydd trigolion a busnesau cyfagos yn cael eu hystyried – er enghraifft, bydd y llwyfan yn wynebu’r de fel bod sain yn cael ei gyfeirio tuag at y parc a chanol y ddinas – a bydd lefelau sŵn yn y digwyddiadau Blackweir Live yn cael eu monitro bob amser.
Roedd ystyriaethau sŵn yn rhan o’r broses drwyddedu. Mae’n amod o’r drwydded safle:
- rhaid i bob digwyddiad cerddorol gydymffurfio â ‘Chod Ymarfer Rheoli Sŵn Amgylcheddol mewn Cyngherddau’ y cyngor a elwir hefyd yn y ‘Cod Pop.’
- Rhaid cyflwyno cynllun rheoli sŵni’radran Rheoli Llygreddo leiaf 28 diwrnod cyn pob digwyddiad, neu ddechrau cyfres o ddigwyddiadau a reolir ar y cyd.
Rhaid i’r cynllun rheoli sŵn gael ei gwblhau gan acwstegydd cymwys priodol a:
- chynnwys lefelau sain arfaethedig y digwyddiad.
- dogfennu’r fethodoleg a fydd yn cael ei defnyddio i fonitro, rheoli a rheoli effaith aflonyddwch sŵn o bob digwyddiad.
- ymgorffori proses rheoli cwynion y dylai rheolwyr safle fanylu ar y broses sydd ar gael pe bai cwyn yn codi.
Sut bydd traffig y digwyddiadau’n cael ei reoli?
Mae Caeau’r Gored Ddu yng nghanol y ddinas – maen nhw’n hawdd eu cyrraedd ar droed ac mae ‘na gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da, a bydd cynulleidfaoedd yn cael eu hannog i ddefnyddio’r rhain.
O ran traffig cerbydau, bydd trefniadau rheoli digwyddiadau a pharcio canol y ddinas yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y cyngherddau hyn.
Bydd y trefniadau hyn yn cael eu cwblhau yn yr wythnosau nesaf.
A fydd llwybr beicio Heol y Gogledd ar gau?
Bydd y trefniadau hyn yn cael eu cwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf, fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd peth dargyfeiri dros dro tymor byr o’r llwybr beicio i hwylusogosod a datgymalu’r digwyddiad, ac yn ystod oriau brig i bobl sy’n mynd i mewn ac allan o’r safle ar ddiwrnodau digwyddiadau.
A fydd y cyngherddau yn cael unrhyw effaith ar Daith Taf?
Na. Bydd Taith Taf yn parhau i fod ar agor drwy’r amser, ond bydd Pont y Gored Ddu a llwybrau yn rhan ogleddol Parc Bute ar gau ar ddyddiadau cyngherddau. Bydd mapiau sy’n rhoi manylion llawn am unrhyw gau yn cael eu harddangos yn y parc, cyn y digwyddiadau.
Beth fydd y cyngherddau yn ei wneud i gefnogi cynaliadwyedd?
Bydd yr hyrwyddwyr yn sicrhau bod polisi cynaliadwyedd cynhwysfawr ar gael ar wefan Depot Live maes o law.
A fydd y Cyngor yn gwneud arian o’r cyngherddau hyn?
Bydd. Mae Parc Bute yn un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd ac yn meddu ar Wobr fawreddog Baner Werdd – yr anrhydedd fwyaf i barciau yn y DU – ar sail ei ansawdd. Ers 2002, pan ddaeth Parc y Rhath y safle cyntaf a reolir gan Gyngor Caerdydd i dderbyn Baner Werdd, mae un ar bymtheg o barciau eraill wedi derbyn y statws hwn.
Heddiw mae gan Gaerdydd fwy o faneri gwyrdd na’r rhan fwyaf o ddinasoedd tebyg eraill yn y DU, ond mae cynnal y safonau uchel hynny yn wyneb pwysau parhaus ar gyllidebau’r cyngor yn heriol.
Law yn llaw â digwyddiadau poblogaidd a sefydledig eraill sydd eisoes yn digwydd ym Mharc Bute, bydd digwyddiadau Blackweir Live yn darparu incwm hanfodol i’n galluogi i barhau i fuddsoddi ym mharciau’r ddinas a chynnal y safonau uchel yn ein mannau gwyrdd y mae trigolion yn eu haeddu.
Bydd incwm o’r digwyddiadau hefyd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais fel dinas gerdd, cefnogi ein lleoliadau llawr gwlad a pharhau i hyrwyddo’r ddinas fel cyrchfan gerddoriaeth.
Beth fydd manteision y cyngherddau hyn i economi Caerdydd?
Bydd yr artistiaid byd-enwog sy’n chwarae yn Blackweir Live yn denu ymwelwyr i’r ddinas ac yn arwain at fanteision economaidd sylweddol.
Yn ogystal â helpu i wneud y ddinas yn lle bywiog a chyffrous i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr, dangosodd ffigurau cyn y gyfres gyntaf o gyngherddau’r Castell fod cerddoriaeth fyw yn cyfrannu tua £100 miliwn at economi Caerdydd bob blwyddyn.
Mae cyngherddau maes glas, awyr agored yn boblogaidd gyda’r cyhoedd ac, y llynedd, daeth cyngherddau’r Castell â dros 80,000 o ymwelwyr i Gaerdydd o’r tu allan i Gymru. Ynghyd â chadwyn gyflenwi leol helaeth a 300 o swyddi rhan-amser ychwanegol yn ystod y cyfnod, cyfrannwyd £26.3 miliwn at economi’r ddinas.
Mae disgwyl i gyngherddau Blackweir Live greu 300 o swyddi lleol eraill yn ystod cyfnod y cyngherddau.
Sut bydd y cyngherddau hyn yn helpu i gefnogi sîn gerddoriaeth Caerdydd?
Mae’r cyngherddau’n rhan o’n gwaith parhaus, ochr yn ochr â Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, er mwyn helpu i greu dinas gerdd fywiog gydol y flwyddyn lle mae pob lefel o’r sector cerddoriaeth – o artistiaid addawol a lleoliadau llawr gwlad i fyny – yn ffynnu.
Mae enghreifftiau o’r gwaith ehangach hwn yn cynnwys:
- Cyflawni gŵyl aml-leoliad ddiweddar Dinas Gerdd Caerdydd – gŵyl gerddoriaeth fwyaf erioed Caerdydd.
- Helpu i sicrhau dyfodol Clwb Ifor Bach.
- Helpu i ddod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer lleoliadau fel Porters a Sustainable Studios.
- Cyflwyno grantiau cyllid cyfalaf newydd – sydd ar gael i bob lleoliad llawr gwlad yng Nghaerdydd.
- Cyflwyno ‘parth llwytho’ i gerddorion yn Stryd Womanby.
- Penodi Swyddog Cerdd cyntaf erioed Caerdydd – sydd wedi ei neilltuo i weithio gyda’r diwydiant cerddoriaeth.
- Cyflwyno cynllun datblygu talent ysgol ‘Gigs Bach’ newydd.
Mae’r hyrwyddwyr o Gaerdydd, Depot Live, yn gweithio ochr yn ochr â’r hyrwyddwyr rhyngwladol Cuffe & Taylor, sy’n gweithio gyda rhai o’r enwau mwyaf yn y diwydiant cerddoriaeth byd-eang – bydd y bartneriaeth hon yn adeiladu ar lwyddiant cyfres Cyngherddau’r Castell yr haf wrth i ni geisio cadarnhau statws Caerdydd fel lleoliad gigio hanfodol i artistiaid mawr cyn adeiladu’r arena newydd ym Mae Caerdydd.
Bydd cyngherddau Blackweir Live hefyd yn arddangos y dalent leol orau mewn slotiau cefnogi, gan roi sylw gwerthfawr iddynt ger bron cynulleidfaoedd newydd.
Sut galla i gael tocynnau?
Mae tocynnau ar gael yma: https://www.blackweirlive.com/