Ychwanegiadau i’r y Berllan Gymunedol
Donate nowHelpwch ni i wella perllannau cymunedol newydd Parc Bute
Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd i blannu perllannau cymunedol newydd ym Mharc Bute. Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu a’i arwain gan grŵp cymunedol gyda chymorth Cyfeillion Parc Bute.
Mae’r plannu’n dilyn ymgyrch dan arweiniad y gymuned a sefydlwyd yn sgil y fandaliaeth, a achosodd werth miloedd o bunnoedd o ddifrod.
Mae’r plannu’n dilyn ymgyrch dan arweiniad y gymuned a sefydlwyd yn sgil y fandaliaeth a ddigwyddodd ym Medi 2021, a achosodd werth miloedd o bunnoedd o ddifrod.
Y bwriad yw y bydd y safle llai yn darparu’r lleoliad delfrydol i gyflwyno ymwelwyr â’r parciau i fanteision perllannau a’u cyfeirio at y safle mwy.
Eich rhodd
Mae’r prosiect yn y cyfnod datblygu a chytunir ar yr union fanylion drwy ymgynghori. Fodd bynnag, mae’r cynlluniau cychwynnol yn cynnig y dylai’r berllan gynnwys nifer o welliannau y bydd angen cyllid ychwanegol arnynt.
Bydd rhoddion cyhoeddus a wneir tuag at yr agwedd hon ar y prosiect yn debygol o ariannu un neu fwy o’r canlynol:
- Cerflun deongliadol
- Nodweddion chwarae
- Gwaith celf deongliadol
Cefndir
Gallwch ddarllen mwy am gefndir a datblygiad y prosiect yma:
Lleoliad
Bydd dwy berllan:
- y brif un i’r gogledd o gaeau chwarae’r Gored Ddu
- un lai gerllaw’r ‘Lawnt y Berllan’ hanesyddol
Ychwanegiadau i’r y Berllan Gymunedol
Helpwch ni i godi ein targed o £20000.
Hyd yma, rydym wedi codi £17958.61. Diolch!
Nid yw’r swm o £17958.61 yn gyfanswm byw a chafodd ei ddiweddaru ddiwethaf November 4, 2024.
Cyfrannu ar-lein
- Dewiswch y swm rhodd o'ch dewis.
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost os hoffech gael derbynneb.
- Cliciwch i gadarnhau eich bod wedi darllen a deall y Telerau ac Amodau.
- Cliciwch y botwm 'rhoddi' i agor y dudalen dalu.
Cyfrannu dros y ffôn
Ffoniwch ein tîm ar 029 2087 2730 yn ystod oriau swyddfa (Llun – Gwe 9am tan 5pm).