Helpwch i adfer “Pumba”
Donate nowCrëwyd y cerflun pridd wedi’i plannu hwn o ben twrch mewn coetir y tu ôl i Gaffi’r Tŷ Haf gyda charedigrwydd gan y tîm garddio mewnol yn 2001. Ysbrydolwyd y nodwedd gan nodwedd arddwriaethol a welwyd yng Ngerddi Coll Heligan, Cernyw.
Yn anffodus, mae “Pumba” wedi mynd â’i ben iddo ar ôl i’w ffens amddiffynnol gael ei chwalu dro ar ôl tro.
Mae eich rhoddion a dderbyniwyd drwy fenter Prosiect Gwella Parc Bute yn 2020/21 wedi helpu i’w ddiogelu a’i adfer i’w hen ogoniant.
Eich rhodd
Mae eich rhodd wedi helpu i’w warchod a’i adfer i’w ogoniant blaenorol.
Cafodd y proffil ei ail-sefydlu gan ddefnyddio pridd wedi’i ailgylchu, a chafodd ei ail-blannu gan ein garddwyr, gwirfoddolwyr a’n prentisiaid garddwriaethol. Defnyddiwyd glaswelltau addurnol amrywiol i edrych fel ffwr (Hedera helix a Pachysandra), aeliau du (Ohiopogon planiscapus “Nigrescians”), mwng tonnog lliwgar (Luzula sylvatica, Stipa tenuissima, a Crocosmia aurea) a mohican (Miscanthus sinensis “Zebrinus”).
Cafodd rheiliau metel amddiffynnol a giât fynediad i’r garddwr hefyd eu gosod.
Cefndir
Hanes “Pumba”
Rheolwr Cynorthwyol ardal y de-ddwyrain, Roy Hutchins, gafodd y syniad ar ôl ymweld â The Lost Gardens of Heligan a gweld “Pen y Cawr”, yn ôl yn 2000.
Wrth baratoi, casglwyd pridd a gynhyrchwyd o gynnal a chadw meysydd bowlio’r ddinas.
Dod yn organig wnaeth cynllun y twrch; nid oedd rheswm penodol drosto.
Rheolwr Ardal Cynnal a Chadw’r Tir, Will Power, greodd broffil y pen a cherfio’r clustiau pren a’r trwyn.
Y Goruchwyliwr Gwaith, Dave Hutchins, greodd y mosaig llygaid gan ddefnyddio teils wedi eu torri ac adlewyrchwyr beic fel y golau yn ei lygaid!
Oherwydd y siâp twrch, cafodd y nodwedd y llysenw “Pumba”.
Yn 2012 disodlwyd yr elfennau pren gan ddefnyddio pren cedrwydd o goeden heintus ym Mharc y Rhath. Dyna pryd ychwanegwyd yr ysgithrau.
Wyneb newidiol “Pumba”
Mae’r twrch wedi cael ambell i steil gwallt dros y blynyddoedd.
Helpwch i adfer “Pumba”
Rydym wedi cyrraedd ein targed o £2165.
Rydym wedi codi cyfanswm o £2165. Diolch!
Nid yw'r prosiect hwn bellach yn derbyn rhoddion. Gwelwch y prosiectau cyfredol.