Prosiectau

Helpwch i adfer “Pumba”

Crëwyd y cerflun pridd wedi’i plannu hwn o ben twrch mewn coetir y tu ôl i Gaffi’r Tŷ Haf gyda charedigrwydd gan y tîm garddio mewnol yn 2001. Ysbrydolwyd y nodwedd gan nodwedd arddwriaethol a welwyd yng Ngerddi Coll Heligan, Cernyw.

Yn anffodus, mae “Pumba” wedi mynd â’i ben iddo ar ôl i’w ffens amddiffynnol gael ei chwalu dro ar ôl tro.

Mae eich rhoddion a dderbyniwyd drwy fenter Prosiect Gwella Parc Bute yn 2020/21 wedi helpu i’w ddiogelu a’i adfer i’w hen ogoniant.

Pumba, yn dilyn gwaith plannu ym mis Ionawr 2022
Llun a gymerwyd ym mis Mehefin 2020 yn dangos proffil “Pumba” a’r ddaear gyfagos sydd bellach wedi treulio, ac ychydig o blanhigion sy’n weddill

Eich rhodd

Mae eich rhodd wedi helpu i’w warchod a’i adfer i’w ogoniant blaenorol.

Cafodd y proffil ei ail-sefydlu gan ddefnyddio pridd wedi’i ailgylchu, a chafodd ei ail-blannu gan ein garddwyr, gwirfoddolwyr a’n prentisiaid garddwriaethol. Defnyddiwyd glaswelltau addurnol amrywiol i edrych fel ffwr (Hedera helix a Pachysandra), aeliau du (Ohiopogon planiscapus “Nigrescians”), mwng tonnog lliwgar (Luzula sylvatica, Stipa tenuissima, a Crocosmia aurea) a mohican (Miscanthus sinensis “Zebrinus”).

Cafodd rheiliau metel amddiffynnol a giât fynediad i’r garddwr hefyd eu gosod.

Cefndir

Hanes “Pumba”

Rheolwr Cynorthwyol ardal y de-ddwyrain, Roy Hutchins, gafodd y syniad ar ôl ymweld â The Lost Gardens of Heligan a gweld “Pen y Cawr”, yn ôl yn 2000.

Wrth baratoi, casglwyd pridd a gynhyrchwyd o gynnal a chadw meysydd bowlio’r ddinas.

Dod yn organig wnaeth cynllun y twrch; nid oedd rheswm penodol drosto.

Rheolwr Ardal Cynnal a Chadw’r Tir, Will Power, greodd broffil y pen a cherfio’r clustiau pren a’r trwyn.

Y Goruchwyliwr Gwaith, Dave Hutchins, greodd y mosaig llygaid gan ddefnyddio teils wedi eu torri ac adlewyrchwyr beic fel y golau yn ei lygaid!

Oherwydd y siâp twrch, cafodd y nodwedd y llysenw “Pumba”.

Yn 2012 disodlwyd yr elfennau pren gan ddefnyddio pren cedrwydd o goeden heintus ym Mharc y Rhath. Dyna pryd ychwanegwyd yr ysgithrau.


Wyneb newidiol “Pumba”

Mae’r twrch wedi cael ambell i steil gwallt dros y blynyddoedd.

Llun o 2002 yn dangos Pumba yn yr haf ar ôl iddo gael ei greu gyntaf.

Llun o 2017 yn dangos iorwg a ddefnyddiwyd ar gyfer y ffwr a’r rhedyn a ychwanegwyd at ei wallt
Llun o 2010, yn dangos mohican o laswellt Miscanthus, ffwr tywarchen ac aeliau Offiopogon.
Will Power a Roy Hutchins ar ôl rhoi golwg newydd iddo yn 2006.
Llun o 2002, cyfnod cynnar hipi “Pumba” pan oedd yn gwisgo plethi yn ei wallt glaswellt hir hesg coch.

Lleoliad

Mae Pumba yn cuddio y tu ôl i Gaffi’r Tŷ Haf ynghanol y coed ger Llwybr Chwarae’r Coetir.