Perllan Gymunedol Parc Bute

Cyhoeddwyd 26th Gor, 2022

O’r fandaliaeth mae perllan yn tyfu, wedi ei phlannu gan y gymuned ar gyfer y gymuned – yn dangos symbol o obaith a gwydnwch.

Mewn ymateb i fandaliaeth ym Mharc Bute ym mis Medi 2021, daeth y gymuned at ei gilydd a ganwyd syniad am berllan gymunedol ym Mharc Bute. 

Bydd y berllan yn:

  • Ymateb ecogyfeillgar a gweladwy i bawb sy’n byw yn y ddinas neu’n ymweld â’r ddinas. Datganiad o obaith yn cefnogi lles cenedlaethau’r dyfodol
  • Yn adnodd addysgol
  • Yn gwella bioamrywiaeth
  • Yn cysylltu’r gymuned a rhoi yn ôl i bobl Caerdydd
  • Yn cynnig ffrwythau bwytadwy am ddim i bobl eu cynaeafu
  • Darparu adnodd hwyliog a defnyddiol ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned, gan gynnwys y grŵp Cyfeillion Parc Bute sydd wedi’i ail-lansio, ond heb fawr o gost i’r Cyngor. 
  • Cyfrannwch at brosiect Coed Caerdydd y Cyngor drwy gynyddu’r canopi coed.

Y prosiect:

Mae’r prosiect yn ei gyfnod cynllunio ac mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal trwy haf 2022 rhwng Rheolwr Parc Bute, Grŵp Llywio Perllan Gymunedol Parc Bute a phrosiect coedwig drefol Coed Caerdydd, ynglŷn â dylunio cysyniadau, a dewis rhywogaethau a’u cyrchu.

Ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf cynhaliwyd “bio blitz” ar brif safle’r berllan, sydd wedi’i leoli y tu hwnt i ben caeau chwarae y Gored Ddu yn rhan ogledd-ddwyreiniol y parc. Cofnodwyd rhywogaethau a bydd y canlyniadau’n ein helpu i fonitro gwaelodlin bioamrywiaeth y safle a’r effeithiau cadarnhaol rydym yn gobeithio gaiff y berllan. 

Cymerwyd samplau pridd i adnabod amodau plannu yn fwy cywir yn y ddau leoliad plannu dethol a bydd hyn yn helpu gyda dewis rhywogaethau. 

Y weledigaeth hyd yn hyn:

  • I adlewyrchu hanes Parc Bute, gan ategu a gwella plannu sy’n bodoli eisoes trwy ddefnyddio coed ffrwythau Treftadaeth Cymru lle bo modd, yn ogystal â mathau prin ac arwyddocaol, gydag ychydig o afalau, gellyg ac eirin Pettigrew yn cael eu hychwanegu oherwydd cysylltiadau hanesyddol.
  • Defnyddio technegau a methodoleg gardd goedwig, sy’n ymgorffori plannu blodau gwyllt i hybu bioamrywiaeth, annog bywyd gwyllt a chynyddu trwch y cynnyrch.  Bydd y technegau hyn yn helpu’r berllan i ddod yn estyniad o’r coedlannau cyll a’r ardal o goetir sydd gerllaw iddi.
  • Er mwyn efelychu rhai o ddulliau cynnal a chadw gwreiddiol Pettigrew.  Roedd yn ffafrio’r dull mwy naturiol o gynnal perllannau heb docio’n rhy hallt, roedd y perllannau a blannodd ym Mharc Bute a Pharc Cathays ymhlith rhai o’r goreuon yn y gwledydd hyn.
  • I ddefnyddio technegau organig, yn seiliedig ar bermaddiwylliant, heb chwistrellu, na defnydd o blaladdwyr, chwynladdwyr na gwrteithiau.
  • I gynnwys cerfluniau a chwarae awyr agored, yn ogystal ag ychwanegu darlunio a chelf.   
  • Cadw ardal yng nghanol y berllan yn glir i bobl eistedd ynddi a chael mwynhad tawel, yn ogystal â chael defnyddio’r gofod hwn ar gyfer dosbarthiadau/gweithdai/digwyddiadau.  

Beth nesaf? 

  • Mae’n bwysig i ni fod y berllan hon i’r gymuned gan y gymuned, felly mae’r camau nesaf i gyd yn ymwneud â dod â’r gymuned at ei gilydd a chael pobl i gymryd rhan.
  • Bydd cyfres o sesiynau dod ynghyd cyhoeddus lle byddem wrth ein boddau’n sgwrsio am bopeth ynglŷn â’r berllan, rhannu syniadau dylunio, a chlywed syniadau pobl
  • Nod prosiect y berllan yw bod yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn hamddenol, gydag opsiynau i bawb ymuno lle bynnag y bo modd.
  • Bydd y sesiynau dod at ein gilydd hyn yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute, yn ogystal ag allan yn y gymuned. Dyddiadau ac ati i’w cadarnhau yn fuan. 

Cefnogwch ni:

  • Helpwch i wella perllannau cymunedol newydd Parc Bute drwy gynllun gwella diweddaraf Parc Bute ” Ychwanegiadau i’r Berllan Gymunedol”. Bydd dau leoliad i’r perllannau: y brif un i’r gogledd o gaeau chwarae’r Gored Ddu, ac un llai gerllaw’r ‘Lawnt y Berllan’ hanesyddol.
  • Y bwriad yw y bydd y safle llai yn darparu’r lleoliad delfrydol i gyflwyno manteision perllannau i ymwelwyr â’r parc a’u cyfeirio at y berllan fwy.

Mae’r post blog hwn yn cael ei chyd-ysgrifennu gan Grŵp Llywio Perllan Gymunedol Parc Bute a Thîm Rheoli Parc Bute.

Cyhoeddwyd gyntaf Gorffennaf 2022

Diweddarwyd Gorffennaf 2022