‘Dyn Coed Afalau’ wedi’i blannu ar safle perllan cymunedol newydd ym Mharc Bute
Cyhoeddwyd 28th Feb, 2024Mae un ar bymtheg o goed ffrwythau treftadaeth wedi’u plannu ar safle perllan cymunedol newydd yn y Gored Ddu ym Mharc Bute, gan gynnwys y ‘Dyn Coed Afalau’ sef yr enw traddodiadol ar y goeden afalau hynaf mewn Perllan.
Mae ‘Dyn Coed Afalau’ Parc Bute yn goeden afalau Gŵyr gydag uchelwydd. Cafodd ei phlannu ochr yn ochr â phedair math arall o goed afalau treftadaeth, wrth i brosiect coedwig drefol ‘Coed Caerdydd’ Cyngor Caerdydd groesawu trigolion lleol ac aelodau o Gyfeillion Newydd Parc Bute ar safle perllan newydd ddydd Sadwrn (24 Chwefror).
Plannwyd hefyd amrywiaeth o wahanol goed gellyg, ceirios, eirin, gwyrddlas ac eirin hir. O dan y coed, bydd blodau gwyllt hefyd yn cael eu tyfu, gan greu lle bioamrywiol, lliwgar a chroesawgar i ymwelwyr â’r parc eu mwynhau.
Datblygwyd y syniad ar gyfer y berllan gan y gymuned yn 2021, fel ymateb cadarnhaol yn sgil fandaliaeth ddifrifol a adawodd lawer o goed yn y parc wedi’u difrodi.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae twf parhaus y prosiect perllan cymunedol ym Mharc Bute wir yn dangos Caerdydd ar ei orau, gan ddod at ein gilydd i ymateb yn gadarnhaol i amseroedd anodd. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda’r gymuned a helpu i ddatblygu’r berllan drwy ein prosiect plannu Coed Caerdydd.”
Dywedodd Melissa Boothman, Cadeirydd y Berllan Cymunedol i Ymddiriedolaeth Parc Bute: “Mae hwn yn ddiwrnod anhygoel i Barc Bute a’r gymuned. Pan gafodd Parc Bute ei ddylunio a’i osod am y tro cyntaf ar ddiwedd y 1800au gan y Prif Arlunydd, Andrew Pettigrew, roedd yn cynnwys perllan sydd wedi’i cholli gyda threigl amser.
“Heddiw yw’r cam cyntaf i greu perllan gymunedol i bawb sy’n trysori ac yn ymweld â’r Parc hwn.
“Ar ran yr Ymddiriedolaeth hoffwn ddiolch i’n gwirfoddolwyr, y gymuned am eu syniadau a’u hannog, a hefyd i gydnabod cymorth Cyngor Caerdydd, y tîm yma ym Mharc Bute, Coed Caerdydd a Phartneriaeth Natur Leol Caerdydd sydd i gyd yn gweithio’n agos gyda ni.”
Plannwyd safle perllan llai, yn agos at Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute, yn ystod y tymor plannu diwethaf a bydd plannu pellach ar brif safle’r Gored Ddu yn parhau yn y tymor plannu nesaf.