Picniciau

Cyhoeddwyd 28th May, 2020

Mae croeso i chi gael picnic ym Mharc Bute ar yr amod eich bod yn parchu’r amgylchedd ac ymwelwyr eraill.

  • Rhowch eich sbwriel mewn bin – byddwch yn cael dirwy am daflu sbwriel gan fod hyn yn erbyn y gyfraith.
  • Peidiwch â difrodi ein glaswellt, ein meinciau neu ein coed trwy roi barbeciwiau tafladwy arnynt. Ystyrir y marciau llosgi mae hyn yn eu gadael yn weithred fandaliaeth.
  • Peidiwch â chynnau tanau agored ym Mharc Bute.
  • Gwnewch yn siŵr bod barbeciwiau wedi’u diffodd yn llwyr cyn eu rhoi yn ein biniau, er mwyn atal tanau.