Barbeciwiau
Cyhoeddwyd 28th May, 2020Rydym yn eich cynghori i beidio â defnyddio barbeciws (tafladwy neu fel arall) ym mhob parc yng Nghaerdydd. Mae barbeciw yn peri risg iechyd a diogelwch i bobl, bywyd gwyllt a chŵn, yn enwedig pan gânt eu gadael heb oruchwyliaeth wrth iddynt ddal yn boeth. Gall cael gwared ar farbeciw yn un o’n biniau tra’u bod yn dal yn boeth achosi tân.
Pan ddefnyddiwyd llawer o farbeciw, mae hyn yn gadael y safle i edrych yn hynod o dameidiog, gan ddifetha’r parc i eraill.
Peidiwch â difrodi ein glaswellt, ein meinciau na’n coed trwy roi barbeciw tafladwy arnynt. Mae’r marciau crasbo sy’n deillio o hyn yn weithred o fandaliaeth yn erbyn y parc yr ydym yn gobeithio eich bod chi ac eraill wrth ei fodd yn treulio amser ynddo.