Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Mae Taith Atgofion yn daith gerdded a noddir sy’n addas i deuluoedd ac yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth go iawn i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae’n rhad ac am ddim i gofrestru ac yn hygyrch i bawb.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddod ynghyd â ffrindiau a theulu a cherdded ar ran anwyliaid y mae dementia yn effeithio arnynt, wrth godi arian i roi cymorth a gobaith iddynt.
Yn y Daith Atgofion byddwn yn cerdded dros ein mamau. Byddwn yn cerdded dros ein teidiau. Byddwn yn cerdded dros unrhyw un y mae dementia yn effeithio arnynt nawr, ac yn y dyfodol. Dros bwy fyddwch chi’n cerdded?
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein