Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Dydd Mawrth 1 Awst: Môr-ladron Herfeiddiol
Cleciwch Glefyddau! Codwch yr angor a hwyliwch ar antur feiddgar gyda’n criw o fôr-ladron drewllyd. Ceisiwch osgoi’r crocodeiliaid, tynnwch lw a chadwch lygad allan am drysor yn y profiad cyffrous hwn o wrando ar stori.
Dydd Mawrth 8 Awst: Y Dyn Bach Sinsir
Iechyd Mawr – mae ‘na Ddyn Bach Sinsir wedi mynd yn rhydd ac mae’n rhedeg mor gyflym ag y gall! Allwch chi helpu ein hen wraig fach i ddal y dyn bach eofn sydd wedi rhedeg i ffwrdd, cyn i’w phaned o de fynd yn oer, yn y stori antur gyffrous hon.
1. Bydd angen i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser ar hyd y llwybrau.
2. Ni ellir ad-dalu tocynnau.
3. Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ymhob tywydd, hyd yn oed yn y glaw, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo’n briodol.
4. Cyrhaeddwch 10 munud cyn i’r llwybr ddechrau.
Bydd y llwybrau’n digwydd ar yr amseroedd canlynol ar y ddau ddyddiad…
11am – 12pm
1:30pm – 2:30pm
Oedran a argymhellir: 3-10 oed
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein