Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Mae Jurassic Encounter yn dod i Barc Bute yng Nghaerdydd yr haf hwn. Mae Jurassic Encounter yn ddigwyddiad teuluol y mae’n rhaid ei weld, yn osodiad rhyngweithiol o 50 o ddinosoriaid animatronig o faint go iawn o’r cyfnodau Jwrasig, Triasig a Chretasaidd.
Mae’r digwyddiad swynol hwn yr un mor addysgol ag y mae’n ddifyr ac yn ddiwrnod allan perffaith i blant ac oedolion. Bydd ymwelwyr yn cerdded llwybr peryglus drwy laswelltiroedd a choetiroedd ac yn dod wyneb yn wyneb â deinosoriaid mawr ffyrnig ymhlith y coed, y llwyni a’r coedwigoedd.
Mae gan Jurassic Encounter lawer o bethau eraill i deuluoedd eu mwynhau. Mae’r rhain yn cynnwys peiriannau rhith-wirionedd gyda phrofiadau dinosoriaid a rhai nad ydynt yn ymwneud â dinosoriaid, amrywiaeth o stondinau bwyd stryd a diodydd, ôl-gerbyd nwyddau, dinosoriaid reidio a phwll cloddio am ffosiliau. Yma, gall plant iau gogio eu bod yn Baleontolegwyr bach!
Am resymau ynghlwm â’r contract cafodd y digwyddiad Ddydd Gwener ei ganslo ond mae’r cwmni bellach wedi bodloni ei ymrwymiadau contract ac mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn y parc.
Cysylltwch â’r trefnwyr i gael rhagor o wybodaeth: info@jurassicencounters.uk
Ewch i wefan y digwyddiad