Diogelu rhag Deinosoriaid Parc Bute 23rd February, 2023

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Ymgollwch yn eich dychymyg ac ymuno â thîm Louby Lou wrth iddynt feddiannu tiroedd Parc Bute yn ystod hanner tymor mis Chwefror!

Gwrandewch, fforwyr deinosoriaid! Mae’n debyg bod ein ffrindiau â dannedd miniog wedi ymweld â Pharc Bute dros nos ac wedi gadael rhai wyau cynhanesyddol ar eu hôl! Y broblem yw bod yr wyau hyn ar fin deor ac maen nhw wedi dechrau gwingo, a dweud y lleiaf. Mae’n ymddangos eu bod wedi gwingo a rholio allan o’u nythod a gallen nhw fod unrhyw le yn nhiroedd y parc! Allwch chi helpu ein fforwyr deinosoriaid i ddod o hyd i’r wyau a’u dychwelyd i ddiogelwch cyn iddyn nhw ddeor ar draws Caerdydd? Bydd angen gwybodaeth dda am ddeinosoriaid arnoch yn yr antur storïol WEFREIDDIOL hon.

Bwriad y digwyddiad hwn yw annog chwarae dychmygol ym myd natur ac mae’n digwydd yn yr awyr agored, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo am y tywydd ar y dydd. Mae ein grwpiau’n mynd allan ym mhob tywydd, hyd yn oed yn y glaw, felly gwnewch yn siŵr bod hyn yn cael ei ystyried cyn archebu.

Wrth gyrraedd, ewch i Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute (sydd wrth ymyl Caffi’r Ardd Gudd), lle bydd un o’n storïwyr wrth law i’ch cofrestru. Rydym yn cynghori cyrraedd deng munud cyn amser dechrau’r daith. Cadwch lygad am ein baneri Louby Lou i’ch pwyntio i’r cyfeiriad cywir.

Bydd angen i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser trwy gydol y daith. Mae croeso i blant ifanc mewn cadeiriau gwthio neu gludwyr ddod gyda brodyr a chwiorydd hŷn. Sylwer bod hyn yn berthnasol i frodyr a chwiorydd iau yn unig ac nid plant iau o deulu gwahanol.

Sylwer nad oes cyfleusterau parcio uniongyrchol ar gael ar safle Parc Bute. Mae mannau parcio talu ac arddangos ar ochr draw Heol y Gogledd a’r cyffiniau. Nid oes toiledau i bobl anabl ar gael.

Oedran a argymhellir: 3-8 oed 

Sylwer nad oes modd ad-dalu tocynnau.

Bydd tocynnau ar gael ddydd Llun 16 Ionawr 2023 am 12:15pm

Sesiynau:

–             Bore 11:00am – 12:00pm

11am: https://www.ticketsource.co.uk/loubyloustories/dinosaur-dash-bute-park-11am/e-lmbldj

–             Prynhawn 1:30pm – 2.30pm

1:30pm: https://www.ticketsource.co.uk/loubyloustories/dinosaur-dash-bute-park-1-30pm/e-kebvbe

Yn y sesiwn gallwch ddysgu mwy am yr ap newydd ar gyfer parciau Caerdydd, “Love Exploring“.

Lawrlwythwch yr Ap am ddim i weld ein safleoedd, dysgu am y parc, dilyn y llwybrau a chwarae gemau – rhowch gynnig ar ein Saffari Deinosoriaid!


Ewch i wefan y digwyddiad

Manylion

23rd February, 2023 - 23rd February, 2023 11:00 am - 3:00 pm

Lleoliad

Y ganolfan ymwelwyr

what3words: racing.wants.having

what3words:
Cyfarwyddiadau parc Bute