Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
20 Mehefin – 27 Gorffennaf
Gerddi Sophia Caerdydd
Swyddfa Docynnau: 0333 666 3366
www.cardiffopenairtheatrefestival.co.uk
Croeso i Ŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd: Everyman 24. Rydym yn falch iawn o gynnig digwyddiad theatrig sy’n addas at chwaeth pawb, o Shakespeare, i Shrek
Tocynnau ar werth nawr!
Dydd Iau 20 Mehefin – dydd Gwener 28 Mehefin
Gan bylu’r llinellau rhwng realiti a rhith, mae criw o bobl sydd wedi’u llongddryllio yn llywio stori am hudoliaeth, dial a maddeuant.
Dydd Sul 23 Mehefin
Sioe ganu a dawnsio band teyrnged ABBA arobryn – dathliad o bopeth ABBA! – teyrnged â choreograffi llawn i un o’r bandiau gorau erioed.
Dydd Sadwrn 29 Mehefin
Profwch sain fythgofiadwy Frankie Valli and the Four Seasons sy’n cael ei hadfywio gan fand teyrnged gorau’r DU.
Dydd Sul 30 Mehefin
Yn ôl am y chweched flwyddyn, bydd un o uchafbwyntiau’r ŵyl ‘Stand-Yp yn y Parc’ yn gwneud i chi chwerthin nerth eich pennau! Wedi’i gyflwyno gan feistr hwyl a sbri, Clint Edwards, byddwch yn barod ar gyfer rhestr gyffrous o sêr comedi fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach y gwanwyn hwn.
Dydd Iau 4 Gorffennaf – Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf
Yn gyflym, gwyllt a doniol iawn, dyma sioe hynod lwyddiannus yn y West End a ddechreuodd yn y Theatr Genedlaethol gyda’r comedïwr James Corden yn chwarae’r brif ran!
Romeo & Juliet – Theatr Ieuenctid Everyman
Dydd Sul 7 Gorffennaf – Dydd Sul 21 Gorffennaf
Romeo and Juliet yw’r stori glasurol o fachgen sy’n cwrdd â merch, ond mae eu teuluoedd wedi ymwreiddio mewn casineb ac atgasedd tuag at ei gilydd, a phan fydd eu byd yn gwrthdaro mae popeth yn mynd ar chwâl.
Sesiwn Holi’r Garddwyr gyda Terry Walton
Dydd Gwener 12 Gorffennaf
Prynhawn gydag un o hoff broffwydi garddio’r genedl – Terry Walton o BBC Radio 2, sy’n enwog am ei ddarllediadau rheolaidd o’i randir yng Nghwm Rhondda. Dysgwch fwy am ei fywyd, ei ddiddordebau a’i yrfa radio, gan gynnwys rhai o uchafbwyntiau gweithio gyda Syr Terry Wogan a Jeremy Vine.
Dydd Iau 18 Gorffennaf – Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf
A fydd Adelaide o’r diwedd yn cael ei dyn i’w phriodi? A fydd y Chwaer Sarah yn gweld y tu hwnt i werth enwol gamblwr? A fydd y Cadfridog Cartwright yn caniatáu i’w hun greu helynt?
Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf – Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf
Mae hoff fwgan pawb yn ôl! Mae SHREK, The Musical Jr. yn sioe lwyfan ddoniol a fydd yn swyno’r teulu cyfan, yn seiliedig ar y ffilm lwyddiannus a enillodd Oscar a’r sioe Broadway anhygoel.
Cyfeiriad Gwe: www.cardiffopenairtheatrefestival.co.uk
Gŵyl – pob digwyddiad https://www.ticketsource.co.uk/cardiffopenairtheatrefestival
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein