Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Dydd Iau 6 Ebrill 2023
Ymunwch â’r tîm i edrych ar fonion coed…
- Beth ydych chi’n ei weld?
- Pa mor hen oedd y goeden?
- Pwy sy’n byw yn y bonyn ac o’i gwmpas?
- Ydych chi’n credu y bydd y goeden yn tyfu eto?
- Oes ffyngau yn byw ar y bonyn?
- Oes cen coed?
Dewch am gip craff gyda chwyddwydrau.
Bydd yr offer i gyd yno ar eich cyfer.
Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.
Cwrdd yng Nghnolfan Ymwelwyr Parc Bute, 1pm.
Bydd rhan gyntaf y sesiwn yn digwydd yn yr awyr agored (yn dibynnu ar y tywydd).