Llogi Ystafell Canolfan Ymwelwyr

Archebion busnes neu breifat

Rydym yn lleoliad poblogaidd i gleientiaid sy'n dymuno cynnal digwyddiadau i dimau ddod at ei gilydd, diwrnodau i ffwrdd ar gyfer uwch reolwyr, gweithdai, cynadleddau bach a sesiynau hyfforddi. Rydym yn croesawu cleientiaid o bob sector.

Rydym yn cynnig:

  • gosodiadau dodrefn hyblyg,
  • amrywiaeth o opsiynau cyflwyno,
  • lleoliad hawdd ei gyrraedd,
  • le wedi'i awyru'n dda gyda drysau llithro mawr, a
  • chyfleusterau cyflwyno aml-gyfrwng.

Yr hyn a ddarparwn ar gyfer eich archeb

Teledu sgrin LED diffiniad uchel iawn 75" Samsung (prif ystafell ddosbarth)

Teledu sgrin LED diffiniad uchel iawn mawr 55" LG (ystafell gyfarfod fechan)

System cynadledda fideo USB Premium Poly sy'n addas ar gyfer unrhyw blatfform fideo cwmwl gan gynnwys Microsoft Teams, Zoom, Blue Jeans, GoToMeeting a llawer mwy. Bydd y camera olrhain deallus yn cipio delwedd o bwy bynnag sy'n siarad o fewn yr ystafell ac yn eu harddangos ar y sgrin i bawb, gan gynnwys y rhai sy'n ymuno â chi o bell (y ddwy ystafell gyfarfod)

Mae Gorsaf Docio Dell™ - USB 3.0 yn cysylltu'ch gliniadur â sgrin arddangos. Gallwch hefyd "blygio a chwarae" amryw o ddyfeisiau allanol megis gyriannau caled allanol, bysellfwrdd di-wifr a llygoden ac ati (un ar gael)

Bysellfwrdd cyfryngau All-in-one Microsoft sy'n caniatáu rhyddid o ran lle i’r cyflwynydd o fewn yr ystafell (y ddwy ystafell gyfarfod)

Meicroffonau ychwanegol i ganiatáu rhyngweithio cyfarfodydd hybrid a seinyddion i ganiatáu sain glir drwy'r ystafell gyfan (prif ystafell ddosbarth, diangen yn yr ystafell ddosbarth fechan)

Defnydd am ddim o'r bwrdd gwyn a/neu siart troi (y ddwy ystafell gyfarfod)

Defnydd o'n cegin fechan, gerllaw'r ystafelloedd dosbarth a'r wrn dŵr poeth ar gyfer te, coffi a dŵr yfed hunanwasanaeth.
Er mwyn ein helpu i leihau gwastraff, awgrymwch i'ch mynychwyr eu bod yn dod â'u cwpan eu hunain i'w defnyddio drwy gydol y dydd

Mae dau opsiwn wi-fi ar gael:

  • Caerdydd Am Ddim
  • Wifi Fritzbox (cyflymder lawrlwytho 14mbps ac 1.5mbps lanlwytho)

Dewiswch o'r opsiynau archebu sydd ar gael.

Llogi’r ganolfan gynadledda yn breifat

Hanner diwrnod (4 awr)

Diwrnod Llawn

Prif Ystafell Ddosbarth (hyd at 50 o bobl)

£120 +TAW

£240 +TAW

Ystafell Fechan (hyd at 10 o bobl)

£60 +TAW

£120 +TAW

Y ddwy Ystafell

£180 +TAW

£300 +TAW

Os bydd eich grwp yn cynnwys 25 (neu fwy) o bobl, bydd angen i chi archebu’r ystafell fechan os ydych yn bwriadu cael lluniaeth am gost ychwanegol o £60 + TAW

Mae isafswm tâl llogi o hanner diwrnod.

    Manylion cyswllt

    Manylion y Digwyddiad

    Angen amser

    Nodwch fod hanner diwrnod naill ai rhwng 9am-1pm neu 1pm–5pm

    Amser Cyrraedd

    Gellir cael mynediad i'r ganolfan o 8.30am i'w sefydlu, a gellir ei defnyddio tan 5.30pm i'w glirio os bydd angen. Sylwer bod y Ganolfan Addysg yn cau cyn 5pm yn ystod misoedd y gaeaf (o fis Tachwedd tan fis Chwefror) oherwydd bydd oriau cau’r parc yn gynharach.

    Amser o (gofynnol)

    Amseroedd i (gofynnol)

    Arlwyo

    Oes angen lluniaeth?

    Te, Coffi a dŵr yfed hunanwasanaeth

    Gallwn ddarparu te a choffi ar gyfer y cyfarfod, hunanwasanaeth o'n cegin fach, sy'n ffinio â'r ddwy ystafell. Codir tâl o £1 y pen am y ddarpariaeth hon.

    Gallwn ddarparu cwpanau, te, coffi, siwgr a llaeth buwch a llaeth ceirch.

    Mae croeso i chi ddod ag unrhyw beth arall gyda chi.

    Cinio bwffe

    Os oes angen arlwyo arnoch chi, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â sawl busnes lleol sy'n gyfarwydd â'n lleoliad.

    Ystafell i’w Harchebu

    Gellir cael mynediad i'r ganolfan o 08:30 i'w sefydlu, a gellir ei defnyddio tan 17:30 i'w glirio os bydd angen. Sylwer yn ystod misoedd y gaeaf (mis Tachwedd i fis Chwefror), bod y Ganolfan Ymwelwyr yn cau cyn 5pm gan mai dim ond o fewn amseroedd agor swyddogol y parc yr ydym yn gweithredu.

    Offer

    Trefn yr ystafell

    Defnyddio Offer

    Ar gyfer y cyfarfod hoffem ddefnyddio

    Gwybodaeth

    Rhowch rif eich Archeb Prynu, os oes angen

    A allwch chi ddarparu copi o'ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus i ni? Mae hyn yn ofyniad gorfodol ar gyfer pob archeb.

    *only .pdf files allowed

    Sylwer

    Anfonebu: Byddwch yn cael anfoneb ar gyfer llogi’r ganolfan ar ôl eich digwyddiad.

    Polisi Canslo: Rhowch o leiaf 2 ddiwrnod gwaith o rybudd neu bydd y swm llogi llawn yn cael ei godi arnoch.

    Mae isafswm tâl llogi o £120 + TAW yn berthnasol fesul sesiwn (hyd at 4 awr).

    Llenwch ffurflen archebu a chewch ddyfynbris cywir. Yna, bydd un o'n tîm mewn cysylltiad i gadarnhau argaeledd neu drafod cyfraddau gostyngol ar gyfer archebion lluosog.

    Cyfanswm cost: £

    ex TAW

    TAW: £

    Dewiswch yr ystafell rydych chi ei hangen i barhau