Telerau ac Amodau Llogi Canolfannau Ymwelwyr

 

Darllenwch yr amodau llogi hyn yn ofalus.


Canolfan Ymwelwyr Parc Bute
Parc Bute
Caerdydd
CF10 3DX

1) Amodau
Yn yr amodau hyn mae'r "Llogwr" yn golygu'r person sy'n llofnodi ffurflen y cytundeb, y person a ddynodwyd fel Cyfrifol ar y safle am y cyfnod Llogi, ac mae'n cynnwys y sefydliad y gwneir y cais ar ei ran. 
Mae “Cyngor” yn golygu Cyngor Dinas Caerdydd.  
Mae “Rheolwyr” neu “Rheolwr” yn golygu Swyddog y Cyngor sy’n gyfrifol am y safle yn ystod yr archeb. 
Bydd y "Fangre" yn golygu'r ystafelloedd/cyfleusterau/offer yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute y cyfeirir atynt yn y ffurflen archebu ar-lein.  
Bydd "taliad" yn golygu'r swm sydd i'w dalu gan y llogwr fel y nodir ar wefan Parc Bute ar ôl cwblhau'r ffurflen archebu ar-lein ar gyfer defnyddio'r fangre. 
Dim ond ar ôl derbyn ffurflen archebu ar-lein wedi'i chwblhau'n llawn y gellir llogi'r Fangre. 
 
2) Taliad 
Bydd y Llogwr yn talu'r Taliad i'r Cyngor ar ôl derbyn anfoneb swyddogol. 
 
3) Canslo 
a) Gan y Llogwr: Rhaid hysbysu pob canslad yn ysgrifenedig o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn dyddiad yr archeb. Gall methu â rhoi rhybudd arwain at godi'r ffi llogi lawn. 
b) Gan y Cyngor: Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i ganslo neu gau'r cyfleuster ar gyfer digwyddiadau ac amgylchiadau mawr allanol y tu hwnt i'w reolaeth.  Yn yr achos hwn, bydd unrhyw arian a dalwyd yn cael ei ad-dalu'n llawn. 
  
4) Defnydd o Fangre 
a)
Cyn dechrau'r cyfnod llogi, bydd Swyddog y Cyngor yn archwilio'r fangre i ganfod ei chyflwr a bydd unrhyw gofnod a wneir yn dystiolaeth bendant o gyflwr y fangre at ddibenion y cytundeb hwn. 
b) Dim ond at y diben y cytunwyd arno y gall y Llogwr ddefnyddio'r fangre. Os bydd defnydd anawdurdodedig, gall y Rheolwyr atal achosion a throi'r Llogwr allan.
c) Nid yw'r Cyngor yn rhoi unrhyw warant bod y fangre’n addas at y diben penodedig ac ni roddir unrhyw warant benodol neu ymhlyg ynghylch cyflwr neu addasrwydd y Fangre neu'r offer gan y Cyngor. 
d) Mae'r Cyngor yn cadw meddiant cyfreithiol o'r fangre a bydd gan y Cyngor, a phawb a awdurdodwyd ganddo, yr hawl bob amser i fynd i mewn i'r fangre a bod ynddo ac i ddefnyddio'r rhannau sy'n weddill o'r eiddo at unrhyw ddiben.
e) Ni ddylid is-osod y fangre ac ni chaniateir i'r Llogwr drosglwyddo cyfrifoldeb am yr archeb ganiatâd y Rheolwyr.
f) Mae'r Llogwr yn gyfrifol am sicrhau bod rhagofalon iechyd a diogelwch digonol yn cael eu gweithredu wrth iddynt ddefnyddio'r Fangre. 
g) Bydd staff y safle yn nodi dodrefn ac offer i'w defnyddio fel y gofynnir amdano yn y ffurflen archebu. Os oes angen offer ychwanegol, rhaid i'r Llogwr gyflenwi hyn. 
 
5) Amseroedd archebu 
a) Mae amseroedd archebu yn cynnwys amser ar gyfer paratoi a glanhau. 
b) Bydd llogi yn dechrau ac yn gorffen ar yr amseroedd y gofynnwyd amdanynt ar y ffurflen archebu.  Ni fydd mynediad i'r safle cyn yr amser cychwyn y gofynnwyd amdano a bydd tâl amser ychwanegol ynghyd â ffi weinyddol sefydlog o £50+TAW.

 
6) Difrod 
Bydd y Llogwr yn talu am unrhyw ddifrod a achosir gan eu gwesteion neu wahoddedigion. 
 
7) Rheoli 
Rhaid i'r Llogwr fod yn bresennol bob amser yn ystod y cyfnod Llogi a bydd  yn gyfrifol am ymddygiad priodol y grŵp. Lle bo hynny'n briodol, bydd y Llogwr yn gyfrifol am gydymffurfio â'r holl ofynion amddiffyn plant cyfredol fel y'u rheoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Rhaid i blant dan 18 oed gael eu goruchwylio gan oedolyn cyfrifol bob amser wrth ddefnyddio'r Fangre.
  
8) Indemniad 
Bydd y Llogwr yn indemnio'r Cyngor yn erbyn pob hawliad am ddifrod, iawndal a/neu gostau mewn perthynas ag anaf (angheuol neu fel arall) i a/neu ddifrod i eiddo unrhyw bersonau a achosir gan neu sy'n deillio o ddigwyddiad i neu mewn unrhyw ffordd sy'n gysylltiedig â defnydd y Llogwr o'r fangre hon. Efallai y bydd angen copïau o dystysgrifau Yswiriant y Llogwr hefyd. Mae’r Llogwr yn defnyddio’r safle a’r offer ar ei fenter ei hun yn llwyr ac ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw farwolaeth, anaf na difrod i bersonau neu eiddo, nac am eitemau wedi’u colli neu eu dwyn, nac yn atebol mewn unrhyw ffordd arall i’r Llogwr, ei westeion neu drydydd partïon.

 

9) Eiddo sy'n perthyn i'r Llogwr 
Ni fydd y Cyngor a'i gyflogeion yn gyfrifol am unrhyw ddifrod neu golled eiddo sy'n eiddo i'r Llogwr, neu unrhyw berson a ganiateir ganddynt i fynd i mewn i'r fangre yn ystod y cyfnod llogi.
 
10) Defnyddio offer trydanol 
Rhaid i'r Llogwr sicrhau bod eu hoffer trydanol eu hunain yn ddiogel ac yn addas i'r diben. 
 
11) Gwirod a lluniaeth 
Ni chaniateir dod mewn â gwirod meddwol na lluniaeth, na’u gwerthu neu yfed ar y safle heb ganiatâd y Cyngor a thrwyddedu priodol. 
 
12) Sŵn 
Rhaid i'r Llogwr gadw sŵn i lefel nad yw'n tarfu ar weithrediad arferol dyddiol y Ganolfan Ymwelwyr a'i swyddfa.
 
13) Taliadau 
Y ffioedd am ddefnyddio Mangre fydd y rhai sy'n bodoli ar yr adeg honno pan fydd y Llogwr yn archebu'r Fangre.
 
14) Tân a gwacáu 
Mae'r Llogwr yn gyfrifol am ymgyfarwyddo â gweithdrefnau gwacáu tân ac argyfwng y Fangre a chynghori eu gwesteion yn unol â hynny.
 
15) Cymorth Cyntaf 
Mae'r Llogwr yn gyfrifol am ddarpariaeth cymorth cyntaf digonol i'w gwesteion a'u mynychwyr. Mae blwch cymorth cyntaf safonol ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr. 
  
16) Parcio Ceir 
Nid oes darpariaeth parcio yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute. 

Gall y Llogwr drefnu mynediad i gerbydau ar gyfer llwytho a dadlwytho offer gyda Rheoli Adeiladau ar adeg archebu.

Mae'r cyfleusterau parcio cyhoeddus agosaf ym meysydd parcio Talu ac Arddangos Heol y Gogledd a Gerddi Sophia. Nid yw'r Cyngor yn gwneud unrhyw hawliad na gwarant ynghylch diogelwch y maes parcio ac mae unrhyw gerbydau modur yn cael eu gadael yn gyfan gwbl ar risg y perchennog.
  
17) Darlledu / Ffilmio / Ffotograffiaeth 
Ni chaniateir Darlledu / Ffilmio / Ffotograffiaeth gan y Llogwr heb ganiatâd o flaen llaw Rheolwr y safle a Thrwydded Ffilm ddilys gan Gyngor Caerdydd.

 
18) Arlwyo a lluniaeth 
Gall y Llogwr a'u gwesteion fwyta bwyd a diod yn y Fangre o fewn yr ardaloedd dynodedig.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am unrhyw fwyd neu ddiod a fwyteir/yfir yn yr Adeilad. Dylid gwneud unrhyw gwestiynau neu gwynion am ddarpariaeth arlwyo i'r darparwr arlwyo'n uniongyrchol.
  
19) Polisi Cyfle Cyfartal 
Rhaid i'r Llogwr beidio â gwahaniaethu ar sail a ddiogelir gan y gyfraith, a rhaid iddo gydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb perthnasol.