Gwaith Gwella Llwybrau Cerdded Coed y Gored Ddu

Cyhoeddwyd 26th Ion, 2021

Cyhoeddwyd gyntaf 17 Hydref 2021

Golygwyd 10 Ionawr 2022

Golygwyd y tro diwethaf:  3 Mawrth 2023

Dechreuodd y gwaith o ddatblygu llwybr newydd trwy Goed y Gored Ddu yr wythnos yn dechrau dydd Llun 25 Hydref 2021. Gwnaed hyn gan dîm rheoli coetiroedd mewnol y Cyngor.

Efallai eich bod wedi sylwi yn ystod eich taith gerdded trwy Goed y Gored Ddu ar fyrddau gwybodaeth sy’n manylu ar pam rydym wedi cau rhan o lwybr glan yr afon.

Cliciwch yma i weld PDF maint llawn

Yn 2021/22 fe wnaethom greu a marcio llwybr amgen trwy’r coetiroedd. Mae hwn yn mynd ag ymwelwyr i ffwrdd o’r peryglon hysbys ar hyd llwybr glan yr afon ac yn helpu i ddiogelu’r cynefinoedd bregus y gwyddys eu bod yn bodoli yno. Mae Coed y Gored Ddu yn Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SoBCN), ac mae ein rheolwyr yn amddiffyn bioamrywiaeth y coetir, wrth hefyd yn cynnal mynediad da a diogel trwy’r parc.

Rydym yn cydnabod poblogrwydd llwybr glan yr afon, sy’n cael ei werthfawrogi am ei golygfeydd hardd dros y dŵr. Gall ymwelwyr fod yn dawel eu meddwl ein bod yn cadw mynediad i olygfannau’r afon lle bynnag y mae’n ddiogel gwneud hynny.

Mae’r ardal hon hefyd wedi gweld gwaith cynnal a chadw tiroedd a gynlluniwyd ers y gwanwyn 2021

Bob gaeaf mae tîm ceidwaid Cyngor Caerdydd yn gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd yng nghoetiroedd y Gored Ddu; gan gynnwys tocio, codi coed a chlirio mieri. Mae’r gwaith hwn yn helpu i gynnal mynediad i goed yng nghasgliad yr ardd goed ac yn helpu i hybu twf llawer o fylbiau’r gwanwyn.

Yng ngaeaf 22/23 bu ceidwad Parc Bute yn gweithio gyda gwirfoddolwyr cadwraeth wythnosol ac yn defnyddio coed marw wedi cwympo a phrysgwydd i greu “gwrychoedd marw”. Mae gan y gwrychoedd hyn ddau bwrpas: maent yn helpu i rwystro nifer o bwyntiau mynediad ochr i’r llwybr caeëdig, ac maent yn creu cynefin i rywogaethau fel drywod, draenogod ac amrywiol rywogaethau o bryfed, gan hybu bioamrywiaeth o ganlyniad.

Yn 2023 bydd rhai grisiau yn y coetir yn cael eu gosod tuag at ben deheuol llwybr Coed y Gored Ddu. Bydd hyn yn gwella diogelwch i bobl sy’n teithio i lawr y clawdd llifogydd o’r pwynt lle mae’r hen lwybr wedi’i gau am resymau diogelwch i’r llwybr newydd.

olaf, rydym yn annog pobl i wisgo eu welis os byddant yn cerdded yn ein coetiroedd. Gall y llwybrau fod yn fwdlyd wrth eu natur a bydd “cerdded mewn welis” yn helpu i atal erydu a cholli cynefinoedd blodau’r llawr gan na fydd angen i bobl grwydro oddi ar y llwybr i osgoi ardaloedd gwlyb.