Sŵn
Cyhoeddwyd 22nd Apr, 2020Yn y lle cyntaf, bydd Trefnydd y Digwyddiad yn ymgynghori â Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau ynghylch lleoliad a chyfeiriad pob system annerch cyhoeddus, seinyddion a systemau cerddoriaeth i’w defnyddio yn y digwyddiad ac i sicrhau bod y digwyddiad yn aros o fewn lefelau sŵn derbyniol.
Gofynnir i Drefnydd y Digwyddiad ddarparu pwynt cyswllt ar ddiwrnod y digwyddiad y gellir cyfeirio unrhyw gwynion a ddaw i law ato er mwyn mynd i’r afael â nhw.
Os aiff lefelau sŵn yn uwch nag a ganiateir a chânt eu hystyried yn niwsans, bydd yn ofynnol i Drefnydd y Digwyddiad leihau’r sŵn i lefelau derbyniol, gan roi sylw arbennig i niwsans sŵn o ganlyniad uniongyrchol i’r osgled bas.
Yn unol â’r Cod Ymarfer cyfredol ar Reoli Sŵn Amgylcheddol mewn Cyngherddau, ni fydd lefel y sain yn fwy na 65 db (A) dros gyfnod o 15 munud, yn yr eiddo preswyl agosaf i safle’r digwyddiad.
Os yw lefelau sŵn yn parhau i beri problem ar ôl i Drefnydd y Digwyddiad gael ei rybuddio gan Oruchwyliwr y Safle neu ar ôl iddo dderbyn rhybudd gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, yna bydd ffynhonnell y sŵn yn cael ei chau i lawr.
Mewn achosion difrifol o niwsans sŵn, gellir cyflwyno hysbysiad o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i Drefnydd y Digwyddiad. Gall hyn arwain at ddirwy o hyd at £20,000 yn cael ei rhoi gan lys, yn dilyn erlyniad llwyddiannus.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am ganslo neu gau digwyddiad oherwydd niwsans sŵn annerbyniol.
Dim ond gyda chaniatâd y Cyngor o flaen llaw y ceir cynnal profion sain y system gerddoriaeth neu sain band a rhaid cytuno ar amser unrhyw brofion sain o flaen llaw. Dylid ystyried preswylwyr cyfagos a busnesau ac ymgynghori â nhw wrth drefnu profion sain h.y. gallai arholiadau fod yn mynd rhagddynt yn CBCDC wrth Gae Cooper ym Mharc Bute neu briodas yng Nghastell Caerdydd.
Gweler Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas yn y canllawiau sy’n benodol i safle.
Canllawiau ar bob digwyddiad