Effeithiau Arbennig Cynhyrchiad a Gweithgarwch Peryglus

Cyhoeddwyd 22nd Ebr, 2020

Rhaid i Reolwr Digwyddiadau’r Parciau roi caniatâd o flaen llaw ar gyfer unrhyw effeithiau arbennig cynhyrchiad a gweithgarwch peryglus.

Trefnydd y Digwyddiad yn unig sy’n gyfrifol am sicrhau bod cynnwys yr asesiad risg sy’n benodol i’r digwyddiad yn addas ac yn ddigonol ac am sicrhau bod y mesurau lliniaru yn yr asesiad risg yn cael eu dilyn.

Gallwch wneud cais i ddefnyddio’r canlynol fel rhan o’ch cais. Rhaid cael caniatâd o flaen llaw gan Reolwr Digwyddiadau’r Parciau.  Dylid enwi unrhyw weithgaredd arbenigol yn eich ffurflenni cais digwyddiad a dylech ddarparu asesiadau risg.

  • Ffilmio gyda Drôn
  • Ffilmio ar Lefel y Ddaear
  • Pyrodechnegau
  • Laserau
  • Peiriannau Mwg
  • Peiriannau Effaith Gwynt
  • Peiriannau Golau Strôb
  • Canonau Confetti/Rhubannau Ni ellir defnyddio conffeti ffoil ar y safle. Cyfrifoldeb trefnydd y digwyddiad yw holl wastraff a gynhyrchir ac mae’n rhaid ei dynnu o’r safle. Ffefrir rhubanau papur bioddiraddiadwy – trafodwch ymlaen llaw.
  • Tân gwyllt
  • Styntiau / perfformiad awyr
  • Gweithgaredd balŵn aer poeth neu reid ar rwymyn
  • Arall – rhowch fanylion

Gweler 
Gweler Asesiad Risg
Gweler Tân gwyllt
Gweler Asesiad Risg

Canllawiau ar bob digwyddiad