Dŵr Gwastraff
Cyhoeddwyd 14th Apr, 2020Mae dau danc carthbwll x 3,500 Galwyn ar ochr ddeheuol Cae Cooper (gweler ycynllun safle) ar gyfer storio dŵr budr/llwyd. Gellir sicrhau bod y rhain ar gael i’w defnyddio drwy drefniant. Rhaid i drefnydd y digwyddiad ariannu a threfnu bod y dŵr yn cael ei bwmpio allan yn llawn ar ddiwedd y cyfnod llogi.
Fel arall, rhaid i hurwyr drefnu i storio a thynnu dŵr llwyd/budr o’r safle.
- Dylid marcio’r lleoliad arfaethedig ar gyfer tanciau ar eich cynllun safle a chytuno arno ymlaen llaw.
- NI DDYLID gosod tanciau o dan neu ger y canopi o goed.
- Rhaid i gyflenwyr ddarparu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, asesiad risg ac ati i drefnydd y digwyddiad.
- Rhaid cynnwys amseroedd gollwng a chasglu, a gwasanaethu yn eich Amserlen Gynhyrchu a Cherbydau.