Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
“Mae’r chwyldro’n nesáu a does gen i ddim byd i’w wisgo”
Croeso i’r Big Top!
Mae NoFit State yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 gyda sioe newydd syfrdanol.
Mae CARNATION yn eich hyrddio i ganol hwrlibwrli sioe syrcas fawreddog, ryfeddol am obaith mewn gwrthryfel.
Yma mae syrcas gyda’r gorau yn y byd, cerddoriaeth fyw a darluniau sinematig trawiadol yn dod benben mewn profiad hollgynhwysol yn y Big Top dan law’r cyfarwyddwr arobryn Firenza Guidi.
Afieithus, carlamus ac emosiynol – mae CARNATION yn byrlymu o sgiliau syfrdanol ac eiliadau arswydus wrth i bobl gyffredin wneud pethau anghyffredin.
Mae NoFit State yn creu gwaith mentrus, herfeiddiol sy’n berthnasol i bobl o bob oed.
Does dim byd yn CARNATION i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant.
Mae croeso i bawb. Camwch i mewn i’r babell; ac fe gerddwch allan yn ddewrach, yn fwy effro ac yn rhan o rywbeth mwy.
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein



