Asesiad Risg
Cyhoeddwyd 1st Mai, 2020Trefnydd y Digwyddiad yn unig sy’n gyfrifol am sicrhau bod cynnwys yr asesiad risg sy’n benodol i’r safle ac i’r digwyddiad yn addas ac yn ddigonol ac am sicrhau bod y mesurau lliniaru yn yr asesiad risg yn cael eu dilyn.
Mae Templed Asesu Risg ar gael a dylai Asesiad Risg gynnwys gweithgarwch yn ystod y broses gosod a chlirio yn ogystal â’r gweithgareddau sy’n digwydd yn ystod y digwyddiad ei hun.
Mae gwybodaeth sy’n benodol i safle ar gael yn yr adran “Beth mae Rheolwr y Lleoliad wedi rhoi gwybod i chi yn ei gylch ac a allai effeithio ar eich cynllunio a rheoli adeiladu?” Cynllun y Cyfnod Adeiladu ar gyfer safle eich digwyddiad.
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan eich is-gontractwyr asesiadau risg addas a digonol hefyd.
Rhaid i’r Asesiad Risg fodloni’r meini prawf sydd yn y rhestr wirio isod.
- Priodol a phenodol i’r amgylchiadau
- Nodi’r holl risgiau perthnasol
- Digonol wrth ystyried y risgiau – mwy o sylw i risgiau uwch
- Digon manwl
- Yn ystyried pob grŵp o bobl sy’n agored i’r risg (gweithwyr unigol a gweithwyr shifft ac ati)
- Yn seiliedig ar gyngor arbenigol, os oes angen
- Yn seiliedig ar dystiolaeth
- Cael ei chyfleu’n ddigonol drwy eich tîm
- Cael ei gweithredu a’i dilyn bob amser
Sylwch fod rheoli risg yn parhau i fod yn gyfrifoldeb ar Drefnydd y Digwyddiad bob amser, gall Cyngor Caerdydd ddarparu cyngor a chymorth ond nid yw’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am risgiau a chanlyniadau o ganlyniad i’ch digwyddiad.
Canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Canllawiau ar bob digwyddiad