Arwyddion Modd Digwyddiadau
Cyhoeddwyd 13th Oct, 2021Mae gan Barc Bute stoc o arwyddion diogelwch dwyieithog y gellir eu defnyddio ar draws y safle pan fydd y parc mewn ‘modd digwyddiadau’. Mae hyn er gwybodaeth i ddefnyddwyr y parc a staff a gyrwyr y digwyddiad.
Mae’r arwyddion yn ddwyieithog a byddwn yn darparu map yn dangos i chi lle y dylid eu gosod. Trafodwch osod yr arwyddion gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau a/neu Oruchwyliwr y Safle.Anfonwch aelod o’ch tîm i gasglu’r rhain o Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute. Dylid casglu’r arwyddion a’u dychwelyd ar ddiwedd eich digwyddiad.
Arwydd | Lliw’r Arwydd | Nifer sydd ar gael |
5mya | Gwyn | 3 |
Stopiwch ac Arhoswch | Coch | 2 |
Gofal Cerddwyr | Coch | 5 |
Safle’r Digwyddiad (saeth i’r chwith) | Coch | 2 |
Safle’r Digwyddiad (saeth i’r dde) | Coch | 1 |
Gofal cerbydau digwyddiadau | Gwyrdd | 2 |
Llwybr o’ch blaen wedi cau | Gwyrdd | 4 |
Gwyriad (saeth i’r chwith) | Gwyrdd | 1 |
Gwyriad (saeth i’r dde) | Gwyrdd | 2 |
Gwyriad (saeth ddwbl) | Gwyrdd | 4 |
Gweler Rheoli Traffig
Canllawiau ar bob digwyddiad