Caeau’r Gored Ddu – Cwestiynau Cyffredin
Cyhoeddwyd 30th Ion, 2026Caeau’r Gored Ddu – Cwestiynau Cyffredin
A fydd cyngherddau yng Nghaeau’r Gored Ddu yr haf hwn?
Mae chwe chyngerdd wedi’u cynllunio yng Nghaeau’r Gored Ddu yr haf hwn. Mae’r sioeau ‘Blackweir Live’ yn cynnwys: The Cure (24 Mehefin), Teddy Swims (26 Mehefin), Lewis Capaldi (30 Mehefin a 1 Gorffennaf), Pitbull (4 Gorffennaf), a Neil Young & The Chrome Hearts (5 Gorffennaf).
A oes gan ddigwyddiadau’r haf drwydded i allu mynd yn eu blaen?
Oes. Cymeradwywyd trwydded safle ar gyfer Caeau’r Gored Ddu ym mis Ebrill 2025. Mae’r drwydded yn caniatáu hyd at 6 digwyddiad bob blwyddyn.
A yw digwyddiadau’r haf wedi cael caniatâd cynllunio?
Dim eto. Mae ymgysylltiad cyhoeddus cam cynnar wedi dechrau cyn i Gyngor Caerdydd gyflwyno cais cynllunio. Bydd y cais yn gofyn am ganiatâd ar gyfer defnydd dros dro o Gaeau’r Gored Ddu ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau byw, tan ddiwedd haf 2031.
Mae’r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) ar agor tan 28/2/26
Beth yw YCY?
Mae Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) yn rhoi cyfle i ymgysylltu â thrigolion lleol, cyrff statudol perthnasol, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill cyn cyflwyno cais cynllunio yn ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
Mae’r cam ymgynghori ychwanegol hwn yn gyfle pwysig i breswylwyr wneud sylwadau ar gynigion drafft cychwynnol, dylanwadu ar y cais cynllunio terfynol, a helpu i lunio digwyddiadau byw’r dyfodol yng Nghaeau’r Gored Ddu.
Mae’r YCY ar gyfer Caeau’r Gored Ddu yn cynnwys gwybodaeth gychwynnol am:
- nifer a hyd y digwyddiadau arfaethedig.
- ystyriaethau’n ymwneud â sŵn, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.
- maint disgwyliedig y gynulleidfa.
- mesurau lliniaru arfaethedig.
Sut alla i gymryd rhan yn yr YCY?
Gall aelodau’r cyhoedd weld y wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy ymweld â: https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/blackweir-fields-cardiff-cf10-3ea-caeau-blackweir-caerdydd-cf10-3ea
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 28/2/26 ac mae croeso i bob barn, p’un a ydych chi o blaid y digwyddiadau neu os oes gennych chi bryderon.
A fydd cyfle i’r cyhoedd wneud sylwadau ar y cais cynllunio terfynol?
Bydd. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus statudol 21 diwrnod o hyd – sy’n rhoi’r cyfle i’r cyhoedd wneud sylwadau ar y cynlluniau terfynol – hefyd yn cael ei gynnal fel rhan o’r broses gynllunio ffurfiol yn ddiweddarach eleni.
Pam mae’r Cyngor yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar ôl peidio â gwneud hynny y llynedd?
Mae cyfraith gynllunio yn caniatáu hyd at 28 diwrnod o ‘newid defnydd’ dros dro heb fod angen caniatâd cynllunio. Dim ond ym mis Mai 2025 y pennodd dyfarniad cyfreithiol sut yn union y dylid cymhwyso’r rheol 28 diwrnod yn y dyfodol, ac y dylid cynnwys gwaith adeiladu a datgymalu digwyddiad yn y 28 diwrnod – ar ôl i ddigwyddiadau’r Gored Ddu ar gyfer y llynedd gael eu cytuno a’u harchebu.
Pan mae’r gwaith adeiladu a datgymalu wedi’i gynnwys, bydd y cyngherddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer haf 2026 yn fwy na’r terfyn o 28 diwrnod. Mae hyn yn golygu, er mwyn cydymffurfio â dyfarniad cyfreithiol y llynedd, bod angen caniatâd cynllunio. Byddai’r caniatâd arfaethedig yn caniatáu i ddigwyddiadau tebyg gael eu cynnal bob blwyddyn tan 2031.
Mae’n ymddangos mai Cyngor Caerdydd sy’n mynd i fod yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ac yn gwneud y penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd cynllunio. Sut mae hynny’n gweithio?
Mae’n rhaid i Gyngor Caerdydd weithio o fewn cyfreithiau, polisïau a fframweithiau cynllunio. Lle mae’r Cyngor yn bwriadu defnyddio tir, neu ymgymryd â gwaith datblygu, sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio ffurfiol, rhaid iddo wneud cais ffurfiol i’r ‘Awdurdod Cynllunio Lleol’ am ganiatâd o dan Reoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992.
Er mai Cyngor Caerdydd yw’r ‘Awdurdod Cynllunio Lleol’ hefyd, mae’r Gyfraith yn caniatáu iddo fod yn ymgeisydd a phenderfynwr. Mae prosesau priodol ar waith i sicrhau priodoldeb.
Bydd y Cyngor yn penderfynu ar y cais – fel y byddai ar gyfer unrhyw ddatblygiad arall – yn ei rôl reoleiddiol fel yr ‘Awdurdod Cynllunio Lleol’. Mae hyn yn golygu dilyn yr holl brosesau priodol, gan gynnwys cyhoeddi’r cais, a dod i gasgliad ar rinweddau’r datblygiad arfaethedig mewn adroddiad Swyddog, yn union fel y byddai ar gyfer unrhyw ymgeisydd arall.
Rhaid adrodd am geisiadau mawr a gyflwynir gan y Cyngor, fel y cais sydd ar ddod ar gyfer Caeau’r Gored Ddu, i’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor wneud y penderfyniad terfynol. Mae hyn yn sicrhau bod pob penderfyniad yn destun craffu cyhoeddus priodol.
Mae’r pwyllgor cynllunio yn cynnwys Cynghorwyr etholedig o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol ac mae’n wleidyddol rydd i benderfynu, yn seiliedig ar dystiolaeth wrthrychol, a ddylai datblygiad fynd yn ei flaen ai peidio. Cynghorir y Cynghorwyr hyn gan swyddogion cynllunio hyfforddedig a chymwys sy’n deall cyfraith cynllunio a gofynion ar gyfer datblygiadau.
Gellir herio pob penderfyniad a wneir gan y Cyngor, yn ei rôl fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, drwy wneud cais i’r Uchel Lys.



