Caffi’r Ardd Gudd- Telerau ac amodau
Mae Caffi’r Ardd Gudd yn fusnes annibynnol sy’n arlwyo ac yn darparu lluniaeth ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau yng Nghanolfan Addysg Parc Bute.
Cyn archebu unrhyw arlwyo neu luniaeth o Gaffi’r Ardd Gudd rhaid i chi gytuno i’r canlynol:
Cadarnhau archeb
Gyda phob archeb ceir cadarnhad ysgrifenedig trwy e-bost gan gynrychiolydd yng Nghaffi’r Ardd Gudd.
Talu
Anfonwch fanylion eich Rhif Archeb at melissa@penylanpantry.com
Mae 20% o Dreth ar Werth ar y pris.
Anfonir anfoneb electronig.
Dylai’r hol daliadau gael eu gwneud yn llawn a thrwy BACS.
Polisi Canslo
Gallwch ganslo heb gosb drwy roi 72 awr o rybudd.
Ar ôl y cyfnod hwn codir y ffi lawn arnoch am eich archeb.
Rhaid i chi roi gwybod i ni eich bod yn canslo dros e-bost at melissa@penylanpantry.com a parcbute@caerdydd.gov.uk
Defnydd bwyd
Rhaid bwyta’r bwyd o fewn 3 awr i’w dderbyn i sicrhau ei fod o ansawdd. Mae’r bwyd i gyd yn fwyd cartref sy’n ddefnyddio cynhwysion tymhorol.
Ymwadiad
Yn ein cegin, rydym yn rhoi dwys ystyriaeth i alergenau, ac yn paratoi’r fath fwyd o fewn amgylchedd a reolir.
Ond cofiwch, rydym yn ymdrin â chnau, glwten, sylphadau, cynnyrch llaeth a chig.