Y Prif Weinidog yn plannu coeden rhif 10 miliwn
Cyhoeddwyd 22nd Hyd, 2019Mark Drakeford a Leah Namugerwa yn cymryd rhan mewn seremonïau plannu coed ar yr un pryd i ddathlu carreg filltir
Ar 11 Hydref llwyddodd rhaglen Maint Cymru Mbale i basio carreg filltir o 10 miliwn o goed wrth i’r ymgyrchydd ynghylch y newid yn yr hinsawdd Leah Namugerwa a’r Prif Weinidog Mark Drakeford blannu coed ar ddau gyfandir.
Mae’r cynllun uchelgeisiol ym Mbale, a ariennir gan raglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, yn plannu coed yn rhanbarth Mynydd Elgon dwyrain Uganda, sydd wedi’i ddatgoedwigo yn helaeth.
Caiff ei gefnogi hefyd gan gynllun Plant! Llywodraeth Cymru, sy’n plannu dwy goeden ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru – un yng Nghymru ac un yn Uganda.
Wrth i Leah Namugerwa, sy’n 15 oed, blannu coeden rhif 10 miliwn mewn seremoni arbennig yn Uganda, roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn plannu ‘gefeilles’ i’r goeden ym Mharc Bute, Caerdydd. Yn ymuno ag ef roedd plant o dîm Eco ysgol gynradd Cwmcarn.
Yn ogystal â brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd – un o faterion mwyaf ein hoes – mae coed sy’n tyfu’n gyflym hefyd yn diogelu pobl leol yn rhanbarth Mynydd Elgon rhag effeithiau erydu pridd a all achosi tirlithriadau angheuol.
Mae’r coed hefyd yn rhoi ffrwythau ffres a lloches i gymunedau lleol, yn ogystal â ffynhonnell incwm bwysig. Mae Leah Namugerwa yn un o genhedlaeth newydd o ferched ifanc sy’n protestio ynghylch y newid yn yr hinsawdd, gan dorri cwys newydd ochr yn ochr â’r cyd-ymgyrchydd Greta Thunberg. Mae ei gwaith ymgyrchu ar gyfer plannu coed a gwahardd plastig untro wedi dechrau cael effaith sylweddol ledled Uganda. Bydd 600 o blant o Ysgol Gynradd Makunda ac aelodau Grŵp Menywod Sunu yn ymuno â hi, gan blannu rhagor o goed i ddathlu’r prosiect a’i gynlluniau i blannu 25 miliwn o goed erbyn 2025.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Mae rhaglen plannu coed Mbale wedi bod yn llwyddiant aruthrol, gan helpu’r cymunedau mwyaf agored i niwed yn Uganda i addasu i’r newid yn yr hinsawdd. “Mae coedwigoedd trofannol yn amsugno bron i draean o’r holl allyriadau CO2 a wneir gan ddyn, gan olygu eu bod yn hanfodol wrth sefydlogi hinsawdd y byd. “Mae plannu coed yng Nghymru ac Uganda yn hanfodol wrth helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac yn helpu plant Cymru i deimlo cysylltiad personol gyda’u hamgylchedd.”
Dywedodd Elspeth Jones, cyfarwyddwr Maint Cymru: “Mae plannu coeden rhif 10 miliwn yn Uganda yn gyflawniad aruthrol. Mae’r rhaglen wedi bod yn gweithio tuag at hyn ers sawl blwyddyn ac mae llawer o bobl yng Nghymru ac yn Uganda wedi mynd ati yn angerddol i sicrhau ei fod yn digwydd.
“Rydym oll yn falch iawn o weld y coed yma yn cael eu plannu heddiw i nodi’r garreg filltir arbennig hon. Rydym yn gobeithio y bydd llawer o bobl o bob rhan o Gymru yn dod i weld ein coeden yn harddwch Parc Bute ac yn defnyddio hyn fel cyfle i ddysgu am y prosiect arbennig hwn a phwysigrwydd coed wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
“Rydym yn gyffrous iawn am gam nesaf y prosiect, sef plannu 25 miliwn o goed erbyn 2025 – gall unrhyw un sydd eisiau cefnogi’r ymdrech hon gyfrannu i blannu coeden fel rhan o’r prosiect ar wefan Maint Cymru.”